Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn wynebu galwad frys i fynd i'r afael â methiannau llywodraethu a gwella ymgysylltiad aelodau

09 Medi 2025
  • Er gwaethaf argymhellion blaenorol, a datganiadau o fwriad da gan y Cyngor, nid oes digon o gynnydd wedi'i wneud i fynd i'r afael â materion llywodraethu critigol

    Mae lefelau isel o ymgysylltiad aelodau mewn hyfforddiant a datblygiad personol, ac achosion o ymddygiad gwael a pherthnasoedd sydd wedi torri ar y lefel uwch i gyd yn ffactorau sy'n peryglu gallu’r Cyngor i wneud penderfyniadau a llywodraethu, ac enw da'r Cyngor.

    Mae arddangos gwerthoedd ac ymddygiadau cadarnhaol yn gyson yn hanfodol ar gyfer llywodraethu da. A heb lywodraethu da, ni ellir sicrhau bod y Cyngor yn sicrhau ei fod yn cyflawni gwerth am arian i bobl Wrecsam. 

    Dyma ein hail adolygiad o werthoedd ac ymddygiadau yn Wrecsam ers 2023. Canfu ein harchwiliad blaenorol, a oedd yn canolbwyntio ar y Gwasanaeth Cynllunio, fod oedi parhaus wrth fabwysiadu dogfennau strategol allweddol wedi creu risgiau sylweddol i'r Cyngor a bod y berthynas rhwng rhai aelodau a swyddogion wedi torri. Canfuom fod y Gwasanaeth Cynllunio yn cael ei rwystro rhag cyflawni ei rôl fel galluogwr allweddol ar draws y Cyngor.

    Canfu'r adolygiad dilynol hwn, a archwiliodd werthoedd ac ymddygiadau ar lefel uwch ar draws y Cyngor, nad yw'r Cyngor wedi mynd i'r afael â'n hargymhellion blaenorol yn llawn. Rydym yn parhau i fod â phryderon am berthnasoedd sydd wedi torri rhwng rhai aelodau a swyddogion. Ychydig iawn o ymwybyddiaeth o'r rolau a'r cyfrifoldebau disgwyliedig y mae’r Cyngor yn ei dangos.

    Rydym wedi gwneud tri argymhelliad pellach yn ychwanegol at yr argymhellion a wnaed yn 2024. Nod yr argymhellion newydd hyn yn bennaf yw arddangos y gwerthoedd a'r ymddygiadau a ddymunir yn fwy cyson. Maent wedi'u targedu at rai camau sylfaenol yn fframwaith llywodraethu'r Cyngor:

    • Gwella'r berthynas rhwng aelodau a swyddogion
    • Gwella gwybodaeth a sgiliau aelodau
    • Sicrhau llywodraethu priodol
    ,
    Mae cynghorwyr a swyddogion yn dibynnu ar ei gilydd, ac mae perthnasoedd sy'n seiliedig ar barch i'r ddwy ochr yn hanfodol ar gyfer llywodraethu da. Y pryderon mwyaf am berfformiad effeithiol y Cyngor yw'r perthnasoedd dan straen parhaus a'r diffyg ymddiriedaeth rhwng rhai aelodau ac uwch swyddogion. Oni bai ei fod yn cael ei ystyried ar frys ac yn wirioneddol, bydd hyn yn tanseilio gwaith cadarnhaol y Cyngor a’i weithlu yn ehangach. Mae'n hanfodol bod y Cyngor yn cymryd camau uniongyrchol a phenderfynol i fynd i'r afael â'r materion sylfaenol hyn o lywodraethu da a diwylliant. Adrian Crompton, yr Archwilydd Cyffredinol
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Adolygiad dilynol o Werthoedd ac Ymddygiadau – Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

    Gweld mwy