Cymorth i ffoaduriaid Wcráin yng Nghymru

Hoffem glywed am eich profiadau chi
Rydym yn ystyried y trefniadau ar gyfer pobl Wcráin sydd wedi cyrraedd Cymru ers Mawrth 2022.
Ein bwriadu yw ateb y cwestiwn: A yw Llywodraeth Cymru, gan weithio gyda'i phartneriaid, yn ymateb yn effeithiol i gefnogi ffoaduriaid Wcráin yng Nghymru?
Byddwn yn canolbwyntio’n benodol ar gynllun uwch-noddwr Llywodraeth Cymru.
Nod ein gwaith yw ymdrin â'r ymateb cychwynnol yn nyddiau cynnar y rhaglen, dulliau gweithredu cyfredol, a chynlluniau ar gyfer y dyfodol. I wneud hyn, mae angen i ni ddarganfod sut mae'r gefnogaeth i ffoaduriaid Wcráin wedi gweithio'n ymarferol yng Nghymru.
Hoffem glywed wrtho chi
Ers dechrau'r gwrthdaro yn Wcráin, mae Asiantaeth Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig yn dweud bod bron i wyth miliwn o ffoaduriaid sydd wedi gadael Wcráin wedi’u cofnodi ar draws Ewrop.
Ym mis Mawrth 2022, cyhoeddodd Llywodraeth y DU gynlluniau i ganiatáu i ffoaduriaid Wcráin ddod i'r DU. Mae'r cynlluniau hyn yn caniatáu i wladolion Wcráin ac aelodau o'u teuluoedd wneud ceisiadau i aros yn y DU am hyd at dair blynedd.
- Mae Fisa Cynllun Teuluoedd Wcráin [agorir mewn ffenestr newydd] yn caniatáu i ddinasyddion y DU a phobl sydd wedi ymgartrefu yno ddod â grŵp ehangach o aelodau o'r teulu i'r DU.
- Mae Cynllun Noddi Wcráin (Cartrefi i Wcráin) [agorir mewn ffenestr newydd] yn caniatáu i wladolion Wcráin ac aelodau o’u teulu agos ddod i'r DU os oes ganddynt noddwr wedi’i enwi sy'n gallu darparu llety. Gall unigolion wneud cais am fisas o Wcráin neu o unrhyw drydedd wlad arall.
Hefyd ym mis Mawrth 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai'n gweithredu fel 'arch-noddwr' Cartrefi i Wcráin, gan ganiatáu i bobl wneud cais am fisa i ddod i Gymru heb noddwr penodol. Gwnaeth Llywodraeth Cymru oedi'r llwybr yma ym mis Mehefin 2022.
Ers mis Mawrth 2022, mae bron i 6,500 o bobl wedi cyrraedd Cymru o Wcráin, gan gynnwys tua 3,000 o bobl wedi’u noddi gan Lywodraeth Cymru sydd wedi cyrraedd o Wcráin.
Rydym eisiau clywed gan bobl sydd â phrofiad i'w rannu gan gynnwys ffoaduriaid o Wcráin, gwesteiwyr neu bobl eraill a allai fod wedi bod yn rhan o gefnogi'r ymateb.
Cwblhewch ein galwad am dystiolaeth [agorir mewn ffenestr newydd]
Bydd yr alwad am dystiolaeth yma yn cau ar Ddydd Gwener 18 Awst 2023.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â galwadamdystiolaeth@archwilio.cymru