Gweld y ffeithlun
Mae ein ffeithlun yn dangos canlyniadau ariannol cyfunol y saith bwrdd iechyd lleol, tair ymddiriedolaeth GIG ac un awdurdod iechyd arbennig yng Nghymru. Mae'n tynnu sylw at y wybodaeth allweddol, gan esbonio sut mae arian cyhoeddus yn cael ei wario a chrynhoi perfformiad ariannol y cyrff iechyd.
Fel y dangosir yn y ffeithlun, ariennir GIG Cymru yn bennaf gan Lywodraeth Cymru ac yn 2020-21 gwariodd £9.6 biliwn. Mae'n cyflogi 88,000 o bobl sy'n gweithio mewn ysbytai, y gymuned a gwasanaethau cymorth.
Yn 2020-21 derbyniodd GIG Cymru £1.3 biliwn o gyllid ychwanegol i ganolbwyntio ar bandemig COVID-19. Ymhlith pethau eraill roedd hyn yn cynnwys gwariant ar gostau staff ychwanegol, prynu offer diogelu personol, y rhaglen frechu, creu ysbytai maes ac offer ychwanegol.