Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Cryfhau ymddiriedaeth mewn archwilio

17 Ionawr 2025
  • Rydym wedi cyhoeddi ein Hadroddiad Ansawdd Archwilio 2024 sy’n amlinellu ein trefniadau ansawdd archwilio a'n hymrwymiad diwyro i ddarparu a buddsoddi mewn gwasanaethau archwilio o ansawdd uchel.

    Mae ein hymrwymiad i ansawdd archwilio yn Archwilio Cymru yn absoliwt. Rydym yn defnyddio model tri llinell sicrwydd i ddangos sut rydym yn cyflawni hyn:

    1. Ein pobl 

    1. Sicrhau ansawdd 

    1. Sicrwydd annibynnol  

    "Yn nhirwedd sector cyhoeddus sy'n esblygu'n gyflym heddiw, ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd ansawdd archwilio. 

    "Wrth wraidd ein hymrwymiad i bobl Cymru mae cred ddiwyro y bydd archwiliad yn parhau i fod â rôl sylweddol wrth ddwyn cyrff cyhoeddus Cymru i gyfrif: ymrwymiad sy'n seiliedig ar egwyddorion ymddiriedaeth, hyder a thryloywder. 

    "Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gymhwyso arferion proffesiynol gorau i'n holl waith i sicrhau bod ein hansawdd yn parhau i fod o safon uchel; mae ein gwaith yn parhau i fod yn effeithiol; ac fel sefydliad rydym yn parhau i gynnig gwerth am arian i drethdalwr Cymru." 

    Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru a Dr Ian Rees, Cadeirydd Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru 

    Edrychwch ar ein fersiwn rhyngweithiol o'r adroddiad. ​

     

    ,
    Wrth wraidd ein hymrwymiad i bobl Cymru mae cred ddiwyro y bydd archwiliad yn parhau i fod â rôl sylweddol wrth ddwyn cyrff cyhoeddus Cymru i gyfrif: ymrwymiad sy'n seiliedig ar egwyddorion ymddiriedaeth, hyder a thryloywder.
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Adroddiad Ansawdd Archwilio 2024: Cryfhau ymddiriedaeth mewn archwilio

    Gweld mwy