Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Codiadau mewn costau ac oedi gyda gwaith gwella ffordd yr A465 Rhan 2

09 Tachwedd 2020
  • Mae adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru yn taflu goleuni ar y materion sydd wedi effeithio ar y prosiect

    Mae amcangyfrifon Llywodraeth Cymru yn awgrymu y bydd gwella darn 8km o’r A465 rhwng Gilwern a Brynmawr yn costio tua £100 miliwn yn fwy i bwrs y wlad nag a amcangyfrifwyd ar ddechrau’r gwaith adeiladu ac yn cymryd mwy na dwy flynedd yn hwy na’r disgwyl i’w gwblhau.

    Darn 8km o ffordd rhwng Gilwern a Brynmawr yw’r A465 Rhan 2. Mae’n golygu adeiladu mewn cwm â llethrau serth – Cwm Clydach – ac yn pasio drwy Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae’r gwaith i wella’r ffordd yn rhan o gynllun mwy i wella 40km o’r A465 rhwng Hirwaun a’r Fenni y disgwylir iddo gostio oddeutu £1 biliwn ar y cyfan. Mae’r cynllun wedi’i fwriadu i gael effaith sylweddol ar fuddsoddi a gweithgarwch economaidd ar hyd coridor Blaenau’r Cymoedd.

    ,
    Roedd y gwaith i fod i gael ei orffen ym mis Medi 2018, ond disgwylir bellach y bydd hi’n 2021 cyn bod y gwaith wedi’i gwblhau’n llawn.
    ,

    Mae’r gost derfynol a’r amserlen ar gyfer Rhan 2 yn dal i fod yn ansicr. Roedd y gwaith i fod i gael ei orffen ym mis Medi 2018, ond disgwylir bellach y bydd hi’n 2021 cyn bod y gwaith wedi’i gwblhau’n llawn. Mae amcangyfrifon Llywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2019 yn awgrymu bil o oddeutu £321.1 miliwn ar y cyfan i bwrs y wlad. Fodd bynnag, bu anghydfod rhwng Llywodraeth Cymru a’r prif gontractwr, sef Costain Ltd. ynglŷn â phwy sy’n atebol am dalu rhai costau penodol. Mae Costain o’r farn bod yr amcangyfrifon diweddaraf o rwymedigaethau Llywodraeth Cymru wedi’u tanddatgan. Mae Llywodraeth Cymru o’r farn bod y ffigyrau’n cynrychioli lwfans rhesymol am ei rhwymedigaethau ar y cam hwn.

    Mae’r ffigwr o £321.1 miliwn yn llai na’r £336.2 miliwn a amcangyfrifwyd ym mis Ebrill 2019, ond ar ddechrau’r contract dyluniad manwl ac adeiladu ym mis Rhagfyr 2014 roedd Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif cost o £223.2 miliwn. Mae rhywfaint o’r cynnydd yn ymwneud â newidiadau dylunio y gofynnodd Llywodraeth Cymru amdanynt a mesurau ychwanegol i fynd i’r afael ag effeithiau amgylcheddol, ond yr heriau peirianegol a chytundebol a brofwyd ar y prosiect sy’n rhoi cyfrif am y rhan fwyaf ohono.

    Mae’r adroddiad yn amlygu’r ffaith bod y prosiect eisoes wedi dwyn rhai manteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ehangach er gwaethaf y costau cynyddol a’r oedi. Mae’r rhain yn cynnwys cyfleoedd cyflogaeth a chreu academi hyfforddiant adeiladu, contractau gyda chwmnïau eraill yng Nghymru, caffael tir i blannu coed ar hyd y llwybr a gwaith allgymorth cymunedol ac elusennol ehangach.

    Fodd bynnag, mae’r tarfu a’r oedi wedi cael effaith sylweddol ar y gymuned leol. Erbyn diwedd mis Tachwedd 2019, roedd hyn wedi cynnwys cau’r ffordd ar 57 o benwythnosau a’i chau dros nos ar 75 o ddiwrnodau pellach yn ystod yr wythnos. Mae’r lefel hon o darfu wedi bod yn sylweddol uwch nag a ddisgwylid ar ddechrau’r gwaith adeiladu ac mae wedi arwain at gwynion gan yrwyr a’r gymuned leol.

    ,
    Nid dyma’r tro cyntaf i Lywodraeth Cymru wynebu anawsterau o ran codiadau sylweddol mewn costau ac oedi sylweddol gyda phrosiectau gwella ffyrdd ac mae’n hollbwysig bod gwersi’n cael eu dysgu ar gyfer cynlluniau seilwaith yn y dyfodol. Er bod rhai manteision ehangach wedi cael eu cyflawni ac er gwaethaf y disgwyliadau ynglŷn ag effaith gwella’r ffordd yn y pen draw, mae’r rhai sy’n byw ac yn gweithio’n lleol yn talu pris uwch na’r disgwyl am yr oedi a tharfu parhaus yn ystod y gwaith adeiladu Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol
    ,

    Nodiadau i olygyddion:

    • Tra bo’r broses datrys anghydfod yn parhau rhwng Llywodraeth Cymru a Costain, mae’r adroddiad hwn wedi cael ei baratoi i nodi, mewn termau ffeithiol, ganfyddiadau interim gwaith archwilio.
    • Mae Ffigur 3 yn yr adroddiad yn nodi’r materion sydd wedi bod yn ganolog i’r anghydfod cytundebol. Mae Ffigur 4 yn rhoi dadansoddiad o amcangyfrifon diweddaraf Llywodraeth Cymru o’r gost i bwrs y wlad, o’i gymharu ag amcangyfrifon cynharach.
    • Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol annibynnol y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Mae’n gyfrifol am fynd ati’n flynyddol i archwilio’r mwyafrif o’r arian cyhoeddus a gaiff ei wario yng Nghymru, gan gynnwys y £15 biliwn o arian y pleidleisir arno’n flynyddol gan y Cynulliad Cenedlaethol. Caiff elfennau o’r cyllid hwn eu trosglwyddo gan Lywodraeth Cymru i’r GIG yng Nghymru (dros £7 biliwn) ac i lywodraeth leol (dros £4 biliwn).
    • Mae annibyniaeth archwilio’r Archwilydd Cyffredinol o’r pwys mwyaf. Fe’i penodir gan y Frenhines, ac nid yw ei waith archwilio’n cael ei gyfarwyddo na’i reoli gan y Cynulliad Cenedlaethol na’r Llywodraeth. 
    • Corff corfforaethol sy’n cynnwys Bwrdd statudol ac iddo naw aelod yw Swyddfa Archwilio Cymru sy’n cyflogi staff ac yn darparu adnoddau eraill ar gyfer yr Archwilydd Cyffredinol, sydd hefyd yn gweithredu fel Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu’r Bwrdd. Mae’r Bwrdd yn monitro ac yn cynghori’r Archwilydd Cyffredinol, o ran arfer ei swyddogaethau.
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    A465 Rhan 2 - Canfyddiadau Interim

    View more