Asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb - rydym am gael eich barn

Mewn byd sy'n fwy cymhleth byth, mae gwasanaethau cyhoeddus yn wynebu her gynyddol i ddeall sut mae eu penderfyniadau a'u gweithredoedd yn effeithio ar wahanol grwpiau.
Un o'r ffyrdd y maent yn ceisio deall yr effeithiau ar bobl â nodweddion gwarchodedig yw drwy asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb (EIA). Ar hyn o bryd rydym yn rhan o astudiaeth sy'n edrych ar sut mae gwasanaethau cyhoeddus yn defnyddio EIA, ac rydym am glywed gan y rhai sy’n cymryd penderfyniadau am eu profiadau.
Gallwch gysylltu â ni ar cydraddoldebau@archwilio.cymru neu roi eich barn ar ein ffurflen ymateb - Adolygiad Archwilio Cymru o asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb mewn cyrff cyhoeddus [agorir mewn ffenest newydd].
Ynglŷn ag asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb
Mae EIA yn broses sy'n seiliedig ar dystiolaeth i brofi effaith penderfyniad neu weithred ar wahanol grwpiau o bobl. Mae EIA yn helpu'r rhai sy'n cymryd penderfyniadau i ddeall canlyniadau penderfyniad ac osgoi canlyniadau neu wahaniaethu anfwriadol.
Mae cynnal EIA cynhwysfawr yn helpu cyrff cyhoeddus i ddangos eu bod wedi ystyried effaith eu penderfyniadau ar bobl â nodweddion gwarchodedig ac i osgoi her gyfreithiol.
Yn gynyddol, mae EIAau wedi'u hintegreiddio ag asesiadau effaith eraill. Mae'r asesiadau integredig hyn yn cynnwys rhai meysydd – megis yr effaith ar y Gymraeg, hawliau plant, preifatrwydd a'r amgylchedd – a nodir yn y gyfraith. Mae eraill – megis asesu'r effaith ar iechyd neu ardaloedd gwledig – yn cael eu llywio gan bolisi. Er enghraifft: mae'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) Llywodraeth Cymru (Tachwedd 2021) [agorir mewn ffenest newydd] yn cynnwys wyth asesiad effaith; mae naratif Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru (Rhagfyr 2021) [agorir mewn ffenest newydd] yn cynnwys 13.
Ein gwaith
Rydym wedi bod yn edrych ar EIAau mewn cyrff cyhoeddus yng Nghymru.
Wrth gyflawni ein gwaith, rydym wedi defnyddio'r dystiolaeth sydd ohoni – gan gynnwys canllaw gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac ymchwil gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru – i'n helpu i fod yn glir ynghylch sut beth yw EIA da.
Pan fydd EIA yn dda
- Proses yw EIA yn broses nid ffurflen
- Mae EIA yn dechrau cyn i bolisi gael ei wneud ac mae'n cael ei ddatblygu a'i fireinio drwyddi draw.
- mae’n darparu sianel ar gyfer trafodaeth a gweithredu
- mae’n glir ar sut yr ystyriwyd yr EIA wrth gymryd penderfyniadau
- mae’n gwella tryloywder penderfyniadau ac yn ategu atebolrwydd
- mae effaith polisi yn cael ei monitro neu ei gwerthuso
Pan na fydd EIA cystal
- fe’i gynhelir nes ymlaen yn y broses o wneud penderfyniadau
- nid yw’n chwilio am dystiolaeth sy’n ddigon dibynadwy o ran effaith
- nid yw’n ceisio barn a phrofiad y rhai sy'n debygol o gael eu heffeithio
- mae'n ymddangos ei fod yn ymarfer ticio blychau
- mae’n cael ei ôl-ffitio i benderfyniadau polisi a wnaed eisoes
- nid yw'r effaith yn cael ei monitro na'i gwerthuso.
Hoffem glywed barn y rhai sy'n gwneud penderfyniadau mewn llywodraeth leol – gan gynnwys awdurdodau tân ac achub ac awdurdodau parciau cenedlaethol – cyrff y GIG a chyrff llywodraeth ganolog lle cynhaliwyd asesiadau effaith.
Yn benodol, rydym yn awyddus i glywed gan aelodau'r cabinet mewn llywodraeth leol ac aelodau annibynnol byrddau ar draws cyrff cyhoeddus eraill.
Dyma rai meysydd y mae gennym ddiddordeb mewn clywed amdanynt:
- Pryd mae gwybodaeth am yr effaith debygol ar gael – a oes gennych unrhyw wybodaeth ar gael pan drafodwyd y penderfyniad am y tro cyntaf?
- A yw EIAau yn cynnwys y dystiolaeth gywir, ac yn ddigon manwl, i lywio eich penderfyniad?
- Pa effaith, os oes effaith o gwbl, sydd pan fydd EIA yn rhan o asesiad effaith ehangach, integredig?
- A yw effaith penderfyniad neu gamau gweithredu yn cael ei monitro unwaith y caiff eu gwneud i werthuso naill ai'r penderfyniad, y broses EIA neu'r ddau?
Rydym hefyd yn ceisio barn pobl sy'n gweithio yn y trydydd sector ac unigolion am asesu'r effaith ar gydraddoldeb.
Os yw hynny'n berthnasol i chi, mae amser o hyd i ymateb gan ddefnyddio ein ffurflen ymateb ar wahân - Adolygiad Archwilio Cymru: Asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb [agorir mewn ffenest newydd].