Apel am farn cleifion ar wasanaethau orthopedig

09 Tachwedd 2020
  • Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn annog y cyhoedd i rannu eu profiadau o wasanaethau orthopedig fel rhan o astudiaeth newydd.

    Orthopaedeg yw'r arbenigedd meddygol sy'n atal a chywiro anafiadau ac anhwylderau yn ymwneud â'r esgyrn, cymalau, a'r cyhyrau a'r gewynnau cysylltiedig

    Bydd yr astudiaeth yn edrych ar effeithiolrwydd y gwasanaethau hyn ar hyd a lled Cymru ac yn gwneud awgrymiadau i'r GIG yng Nghymru.

     Ar gyfer yr astudiaeth, mae Swyddfa Archwilio Cymru yn gofyn i gleifion gwblhau arolwg byr ar-lein.

    Dywed y Rheolwr Prosiect Anne Beegan: "Mae'n bosib eich bod wedi derbyn triniaeth gan wasanaethau orthopedig os ydych wedi dioddef anaf chwaraeon, poen cefn, triniaeth ar gyfer esgyrn wedi torri, ailosod cymalau ac yn y blaen. Mae clywed am brofiadau pobl o'r gwasanaethau hyn yn bwysig iawn gan ei fod yn rhoi ffynhonnell gyfoethog o dystiolaeth am wir safon y gwasanaethau. Mae'r arolwg yn syml iawn i'w gwblhau a ni fydd gofyn i bobl roi eu henw."

    Os ydych wedi derbyn triniaeth orthopedig yn y ddwy flynedd ddiwethaf, cliciwch ar y ddolen isod i lenwi ein harolwg byr - bydd yn cymryd rhwng 5 a 10 munud i'w lenwi.

    Cymrwch ran yn yr arolwg [Agorir mewn ffenest neywdd] (Noder mae'r arolwg bellach wedi cau)

    Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Stephen Lisle ar stephen.lisle@wao.gov.uk neu 07815 955470.