Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol y rhan fwyaf o sector cyhoeddus Cymru
Gallwn ddarparu arf unigryw i gyrff cyhoeddus eraill i'w helpu i wella
Mae ein cyfrifon yn cael eu harchwilio gan gwmni annibynnol a benodir gan Senedd Cymru
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mae gan y Gwasanaethau Archwilio gyrhaeddiad o dros 800 o gyrff cyhoeddus ledled Cymru sy'n ymdrin ag archwilio ariannol a pherfformiad
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau rhannu dysgu
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Yr Archwilydd Cyffredinol yn datgelu “gwendidau sylweddol” y mae angen mynd i’r afael â nhw
Mae adolygiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi datgelu pryderon difrifol ynghylch y trefniadau archwilio mewnol mewn Cynghorau Tref a Chymuned yng Nghymru. Er bod dyletswydd gyfreithiol ar Gynghorau Tref a Chymuned i sicrhau bod trefniadau archwilio mewnol digonol ac effeithiol ar waith, mae staff Swyddfa Archwilio Cymru wedi profi sampl ac wedi canfod:
Dros y 10 mlynedd diwethaf, bu nifer o achosion o Gynghorau Cymuned yn dioddef colledion i arian trethdalwyr oherwydd methiannau sylweddol yn eu dulliau llywodraeth a rheoli ariannol. Mewn rhai achosion, mae hyn wedi bod oherwydd twyll a lladrad. Gallai’r rhain fod wedi eu hosgoi pe byddai trefniadau archwilio mewnol effeithiol ar waith.
Yn y rhan fwyaf o'r achosion hyn, roedd archwilwyr allanol wedi nodi materion a oedd yn ymwneud â chwmpas a digonolrwydd y gwaith a wnaed gan archwilwyr mewnol. Mae archwilwyr allanol yn adrodd yn aml fod archwilwyr mewnol yn cael eu penodi gan glerc y cyngor heb lawer o gyfraniad, goruchwyliaeth na chyswllt gan y cyngor ei hun. Mewn nifer fach o achosion a gofnodwyd, mae hyn wedi arwain at glercod yn ffugio bodolaeth archwiliad mewnol.
Yn ei adroddiad ar gyfrifon Cynghorau Tref a Chymuned yng Nghymru yn 2015-16, gwnaeth yr Archwilydd Cyffredinol sylwadau ar y casgliadau anghyson y daeth archwilwyr mewnol ac allanol iddynt mewn cysylltiad â materion penodol megis gosod cyllideb.
Mae'r negeseuon yn adroddiad heddiw yn gyson â’r nifer cynyddol o achosion o lywodraethu gwael yr ydym wedi eu gweld mewn cynghorau cymuned, sydd wedi hyrwyddo nifer o adroddiadau budd cyhoeddus ac argymhellion statudol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Mae adroddiad arall a gyhoeddwyd gennym yn gynharach y mis hwn, ynghylch llywodraethu a rheoli ariannol mewn Cynghorau Tref a Chymuned yn 2017-18, yn rhoi rhagor o fanylion am yr adroddiadau budd cyhoeddus a’r argymhellion statudol a gyhoeddwyd yn ystod 2018.
Mae’r Archwilydd Cyffredinol yn bwriadu adolygu'r trefniadau archwilio ar gyfer y sector yn 2019-20 a bydd yr adroddiad hwn ar archwilio mewnol yn darparu tystiolaeth ar gyfer yr adolygiad hwnnw.
Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton: “Mae archwilio mewnol yn darparu swyddogaeth hanfodol o fewn sefydliadau – i sicrhau bod dulliau rhwystro a gwrthbwyso ar waith i ddiogelu cyllid a gwasanaethau. Mae'r ffaith ein bod wedi canfod gwendidau difrifol mewn Cynghorau Tref a Chymuned yn annerbyniol ac yn peri pryder – ac mae angen rhoi sylw i’r hyn ar frys.”
Diwedd
Nodiadau i olygyddion: