Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Ai chi allai fod ein Cyfarwyddwr Gweithredol nesaf ar gyfer Moderneiddio Archwilio ac Effaith?

02 Ebrill 2025
  • Rydym yn chwilio am Gyfarwyddwr Gweithredol Effaith ac Archwilio Moderneiddio i ymuno â'n timau.

    Beth yw'r rôl?

    Fel Cyfarwyddwr Gweithredol Effaith ac Archwilio Moderneiddio, byddwch yn darparu arweinyddiaeth strategol ac ysgogiad i gyflawni ein strategaeth bum mlynedd uchelgeisiol yn Archwilio Cymru

    Pwy ydyn ni'n chwilio amdano?

    Byddwch yn dod ag awdurdod, arbenigedd a dealltwriaeth dd`ofn o archwiliad cyhoeddus i'r rôl hon. Byddwch yn arwain meysydd hanfodol fel trawsnewid digidol, cyfathrebu, cynllunio strategol, a rheoli newid, ac yn dal y cylch ar draws Archwilio Cymru i sbarduno newid yng ngoleuni tirwedd esblygol archwilio cyhoeddus.

    Bydd gennych hanes cryf o archwilio cyhoeddus a byddwch yn arweinydd gweledigaethol gyda sgiliau rheoli perthynas a chyfathrebu eithriadol. Mae llwyddiant profedig wrth arwain timau amlddisgyblaethol, sy'n perfformio'n dda yn hanfodol, yn ogystal â'r arddull bersonol i fodelu rôl a sbarduno newid cadarnhaol ar draws Archwilio Cymru.

    Pam ymuno â ni?

    Mae Archwilio Cymru wedi ymrwymo i fod yn gorff cyhoeddus enghreifftiol yng Nghymru, gan osod safonau uchel ym mhopeth a wnawn. Dyma eich cyfle i ymuno â sefydliad blaengar lle bydd eich arweinyddiaeth yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i archwilio cyhoeddus a gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru.

    Sut i ymgeisio

    Cyflwynwh eich CV a llythyr eglurhaol yn amlinellu eich addasrwydd ar gyfer y swydd.

    Dyddiad cau: Dydd Sul 13 Ebrill.

    Mwy o wybodaeth ar ein tudalennau recriwtio.