Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Yn dilyn ein hadroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar 'Adfywio Canol Trefi yng Nghymru', rydym wedi recordio podlediad ar adfywio cymunedol.
Mae'r bennod podlediad hon yn cynnwys Barry Braun o'r ‘Happy Community Project’, sydd wedi'i leoli yn Nova Scotia, Canada, a Ceri Cunnington o'r fenter gymdeithasol Cwmni Bro Ffestiniog, sydd wedi'i lleoli yn y Gogledd yn trafod y pwysigrwydd o feithrin cymunedau hapus ac iach.
Fe drafodwyd materion gan gynnwys cyfrifoldeb addysg a straeon wrth greu cymunedau hapus, mesuriadau ar gyfer 'llwyddiant' ardal a chyfrifoldeb cymunedau o ran meithrin cynaliadwyedd amgylcheddol.
Gallwch wrando ar y podlediad isod neu ddarllen y trawsgrifiad a ddarparwyd:
Darllenwch y trawsgrifiad yn Gymraeg [agorir mewn ffenest newydd]
Darllenwch y trawsgrifiad yn Saesneg [agorir mewn ffenest newydd]
Gobeithiwn y bydd yn wrandawiad diddorol.