Ymddiriedaeth staff – elfen allweddol wrth ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus yn llwyddiannus

23 Gorffennaf 2015
  • Seminar dysgu ar y cyd ar gyfer Arweinwyr Newid mewn Gwasanaethau Cyhoeddus.

    Rydyn ni i gyd yn ymwybodol o bwysigrwydd ymddiriedaeth mewn perthnasau personol. Mae hyn yr un mor addas ar gyfer perthnasau proffesiynol. Dros y blynyddoedd nesaf, bydd gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn profi newid mawr. Ni ellir amau gwerth y cysylltiad rhwng ymddiriedaeth a’i effaith ar staff gwasanaethau cyhoeddus. Neu’r hen ddywediad, ‘mae diffyg ymddiriedaeth yn costio arian!’

    Gweithio gyda Arfer Da Cymrum, rydym ni yn cynnal seminar rhad ac am ddim sy’n cynnwys yr Athro Ros Searle o Brifysgol Coventry [Agorir mewn ffenest newydd], sydd wedi datblygu model ymddiriedaeth yn seiliedig ar ymchwil academaidd helaeth yn ogystal ag enghreifftiau o effaith ymddiriedaeth ar berthnasau proffesiynol yn ystod cyfnodau o newid mewn gwasanaethau cyhoeddus.

    Bydd y seminar yn rhannu damcaniaethau ac astudiaethau achos ymarferol o astudiaethau cyhoeddus yn Lloegr a’r Alban.

    At bwy mae'r digwyddiad wedi ei anelu

    Mae’r seminar hwn wedi ei anelu at arweinwyr sector cyhoeddus a thrydydd sector, sydd â  chyfrifoldeb dros:

    • arweinyddiaeth strategol
    • cyfarwyddo newid
    • gweithredu newid
    • rheoli prosiectau newid
    • tîm arweinyddiaeth Adnoddau Dynol
    • rheoli newid

    Cyflwyniadau

    1. Pam mae ymddiriedaeth yn bwysig, a sut i'w chadwar adegau o argyfwng [PDF 1.6MB Agorir mewn ffenest newydd] - Yr Athro Rosalind Searle, Prifysgol Coventry
    2. Y pwysigrwydd o ymddiriedaeth wrth gyfuno diwylliannau - Sue Holden, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Ysbyty Addysgu Caerefrog
    3. Arwain staff drwy newid sefydliadol [PDF 114KB Agorir mewn ffenest newydd] - Sue Stanhope, Cyngor Dinas Sunderland
    4. Arwain eich Tîm drwy Effeithiau Newid Busnes [PDF 1.24MB Agorir mewn ffenest newydd] - Mike Blakeney a Stephen Townsend, Y Sefydliad Rheoli Prosiectau
    5. Rôl Ganalog yr Arweinydd - Yr Athro Rosalind Searle, Prifysgol Coventry

    Cyfryngau cymdeithasol 

Agenda

Register for this event
About You
Name
In person event details