Ymagweddau arloesol tuag at wasanaethau cyhoeddus mewn cymunedau gwledig

15 Mai 2019
  • Bydd y seminar hwn yn rhannu ymagweddau arloesol i helpu deall sut gall gwasanaethau cyhoeddus fodloni anghenion cymunedau gwledig yng Nghymru.

    Mwy am y digwyddiad hwn

    Rydyn ni wedi cyhoeddi adroddiad yn ddiweddar ar Gwasanaethau Llywodraeth Leol i Gymunedau Gwledig. Yn yr adroddiad hwn bu i ni nodi bod 9 awdurdod yn rhai gwledig, 11 yn rhai rhannol-wledig/trefol a 2 yn rhai trefol.

    Y realiti yw bod darparu gwasanaethau cyhoeddus teg a chyfiawn a chynnal darpariaeth arbenigol mewn ardaloedd gwledig yn heriol oherwydd nifer o resymau gan gynnwys:

    • daearyddiaeth
    • pellter
    • cost
    • hyfywedd.

    Gall colli hanfodion cymunedau gwledig megis banciau, ysgolion, a swyddfeydd post a mynediad gwael at isadeiledd allweddol megis trafnidiaeth gyhoeddus a band llydan cyflym iawn gymhlethu'r her o gynnal gwasanaethau cyhoeddus mewn cymunedau gwledig.

    Mae'r seminar wedi'i seilio ar 7 nod Llesiant y Ddeddf Goruchwyliaeth Ariannol ac mae wedi'i dargedu at yr HOLL wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Gall y syniadau a'r ymagweddau a rennir yn y seminar hwn gael eu haddasu i gyd-fynd ag ystod eang o wasanaethau.

    Mae'r digwyddiad yn berthnasol i'r holl wasanaethau cyhoeddus ledled Cymru gan gynnwys:

    • awdurdodau lleol
    • iechyd
    • yr Heddlu
    • awdurdodau tân
    • cyrff y trydydd sector
    • cymdeithasau eiddo
    • grwpiau cymunedol
    • cyrff gwirfoddol
    • elusennau
    • mentrau cymdeithasol

    Cysylltu â’r Gyfnewidfa Arfer Da

    Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am y digwyddiad hwn, e-bostiwch arfer.da@archwilio.cymru.
    Caiff cyfarwyddiadau ymuno eu hanfon 1-2 wythnos cyn y digwyddiad. Cofiwch roi'ch cyfeiriad e-bost wrth gadw lle fel y gallwn anfon gwybodaeth atoch.
    Rydym yn rhoi hysbysiad preifatrwydd i gynadleddwyr, sy'n rhoi gwybodaeth i chi am y ffordd rydym yn delio â'ch data personol fel rhan o'r broses gofrestru.

    Cynnwys cysylltiedig

    1. Gwasanaethau Llywodraeth Leol i Gymunedau Gwledig
    2. Darparu Gwasanaethau Llywodraeth Leol i Gymunedau Gwledig: Trosglwyddo Asedau Cymunedol

Agenda

Register for this event
About You
Name
In person event details