Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Fe wnaethon ni gynnal gweminar rhad ac am ddim ar 'Wynebu Heriau Ariannol: Cynllunio i droedio tir newydd'.
Mae gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn newid, mae hynny'n ffaith! Mae gwasanaethau cyhoeddus yn wynebu heriau ariannol sylweddol ac mae'n rhaid sicrhau bod safonau gwasanaethau yn cael eu cynnal.
Felly, beth mae hyn yn ei olygu o ran rheoli'r cynllun lleihau diffyg ariannol a darparu gwasanaethau allweddol yn y sector cyhoeddus? Mae'r angen i gydbwyso cyllidebau, hwyluso arloesi a newid yn hollbwysig, ac mae'r daith ar fin mynd yn anoddach. Roedd y weminar yn cynnig dulliau ac arferion da ymarferol, strategol a gweithredol sydd wedi'u mabwysiadu mewn gwasanaethau cyhoeddus ledled y DU.
Roedd y panel yn cynnwys:
Roedd y weminar yn canolbwyntio ar adnabod sut y gellir symleiddio rheolaeth strategol a gweithredol ar wasanaethau cyhoeddus i reoli'r cynllun lleihau diffyg arfaethedig a darparu gwasanaethau allweddol o safon. Yma fe allwch chi wrando ar y trafodaethau hyn o'r weminar [Agorir mewn ffenest newydd].
Roedd y weminar wedi'i hanelu at aelodau a swyddogion y Sector Cyhoeddus gan gynnwys:
Cyflwyniad Guy Clifton ar 'Wynebu Heriau Ariannol' [PDF 3.9MB Agorir mewn ffenest newydd]