Tai a Chwaraeon: Gwella lles a darparu gwell gwerth am arian cyhoeddus
15 Ionawr 2015
-
Cynhaliom seminar dysgu a rennir ar sut mae tai a chwaraeon yn allweddol i wella lles gyda Chartrefi Cymunedol Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Conffederasiwn GIG Cymru, Chwaraeon Cymru, Llywodraeth Cymru ac Arfer Da Cymru.
Trawsgrifiad fideo [Word 154KB Agorir mewn ffenest newydd]
Mae lles yn golygu mwy nag iechyd yn unig. Mae ansawdd tai a gweithgarwch corfforol ill dau’n cael effaith mawr. Fel rhan o’r seminar fe wnaeth arbenigwyr dod at ei gilydd er mwyn darparu buddion sylweddol i les pobl Cymru, sy’n lleihau costau cyfredol.
Mae newidiadau mawr ar y gweill yn y sector cyhoeddus, gyda Bil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn golygu y bydd rhaid i sefydliadau ddangos tystiolaeth o sut maen nhw’n cydbwyso anghenion tymor hir ac anghenion tymor byr, a chan ddefnyddio dulliau integredig; cynnwys pobl sydd â diddordeb; gweithredu ar y cyd; a mabwysiadu meddylfryd ataliol.
At bwy oedd y digwyddiad wedi ei anelu
Roedd y seminar wedi ei anelu at swyddogion sector cyhoeddus a thrydydd sector ym meysydd iechyd, tai a gofal cymdeithasol.Cyflwyniadau
- Catherine Chin, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr - Galluogi Pobl i fod yn Gorfforol Actif [PDF 458KB Agorir mewn ffenest newydd]
- Chris Edmunds, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan - Mewn Un Lle [PDF 563KB Agorir mewn ffenest newydd]
- Elaine Ballard a Mark Sheridan, Cymdeithas Tai Taf - Prosiect Goleudy [PDF 241KB Agorir mewn ffenest newydd]
- John Hardy a Paul Francis o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Dilys Percival a Louise Walton o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Rupert Moon o Undeb Rygbi Cymru - Y Ganolfan Iechyd a Lles [PDF 1MB Agorir mewn ffenest newydd]
Cyfryngau cymdeithasol