Sut y gall deall Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod helpu i ddarparu gwasanaethau mewn ffordd integredig

20 Gorffennaf 2017
  • Drwy drafodaethau yn seiliedig ar sefyllfaoedd, bydd y weminar hon yn helpu unigolion i ddeall effaith Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, sut maent yn ategu gwaith gwasanaethau cyhoeddus, sut gall y 5 ffordd o weithio eu cymhwyso er mwyn gweithredu dull sy’n ceisio arbed Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod a sut gall cydweithio yn y ffordd yma gyflawni ysbryd a bwriad Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

    Yn 2016, cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru gyfres o dair astudiaeth ar Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod yng Nghymru. Canolbwyntiodd yr astudiaethau ar y canlynol;

    Canfu'r astudiaethau'r canlynol;

    • Mae oedolion yng Nghymru a gafodd eu cam-drin yn gorfforol neu'n rhywiol fel plant neu eu magu mewn cartrefi lle roedd trais domestig, alcohol neu gamddefnyddio cyffuriau yn fwy tebygol o fabwysiadu ymddygiadau sy'n niweidio iechyd ac ymddygiadau gwrthgymdeithasol yn eu bywydau fel oedolion.
    • Gellid lleihau nifer yr oedolion sy'n byw gyda lles meddyliol isel yng Nghymru fwy na chwarter (27%) os na fyddai unrhyw unigolion yng Nghymru yn cael eu hamlygu i brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod.
    • Mae'r rheini yng Nghymru sydd wedi dioddef pedwar profiad niweidiol yn ystod plentyndod neu fwy yn fwy na dwywaith yn fwy tebygol o gael diagnosis clefyd cronig yn nes ymlaen mewn bywyd o gymharu ag oedolion nad ydynt wedi profi dim.

    Mae'n glir bod ataliaeth, ymyriad cynnar a chydweithio yn allweddol i dorri'r cylch. Mae angen i wasanaethau cyhoeddus nodi camau y gellid eu cymryd i roi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn yng Nghymru a thorri cylchoedd rhwng y cenedlaethau.

    Mae gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn parhau i wynebu heriau sylweddol, ac nid oes gan un sefydliad unigol yr atebion. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn gofyn i sefydliadau ddefnyddio’r egwyddor datblygiad cynaliadwy i uchafu’u cyfraniad i’r saith nod llesiant. Mae gwneud hyn yn annog cyrff cyhoeddus i herio’u gweithrediadau, cydweithio, mabwysiadu diwylliannau gwahanol a defnyddio'r adnoddau sydd gennym ar y cyd mewn ffyrdd gwahanol iawn. Mae'n hanfodol bod y pum ffordd o weithio yn cael eu cymhwyso ym mhopeth gwnânt.

    At bwy cafodd y gweminar ei hanelu  

    Roedd y weminar hon wedi'i hanelu at bob corff cyhoeddus gan gynnwys y swyddogion canlynol;

    • Cydgysylltwyr Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus;
    • Swyddogion sefydliadau Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, megis yr Heddweision; staff byrddau iechyd, swyddogion trydydd sector, gwasanaeth tân;
    • Aelodau Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus;
    • Swyddogion sy’n gweithio o fewn cynllunio corfforaethol;
    • Swyddogion sy’n gweithio mewn gwasanaethau llinell blaen eraill megis addysg, gwasanaethau cymdeithasol, gwasanaethau cymunedol.

    Cyfryngau cymdeithasol

    Storify [Agorir mewn ffenest newydd]

Agenda

Register for this event
About You
Name
In person event details