Sut all profiad defnyddwyr gwasanaeth wella cyfeiriad strategol a gwasanaethau

02 June 2015
  • Canolbwyntiodd y weminar hon ar sut all deall gofynion defnyddwyr gwasanaeth wella'r ffordd mae sefydliadau yn cynllunio eu gwasanaethau.

    O ystyried tirwedd newidiol gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, bydd deall disgwyliadau defnyddwyr gwasanaeth yn elfen hanfodol o ail-lunio'r gwasanaethau rydych chi’n darparu. Mae'n brawf litmws ar gyfer gwirio os yw eich gwasanaethau yn addas i'w dibenion.
    Yn y weminar hon, fe ddaeth ffigurau allweddol o wasanaethau cyhoeddus ledled Cymru at ei gilydd i rannu eu dulliau a dysgu o brofiadau ei gilydd.  Canolbwyntiodd y weminar ar:
    • Os ydi hi o bwys beth ydych chi’n galw defnyddwyr gwasanaeth – cwsmeriaid, cleifion, dinasyddion, neu denantiaid.
    • Y manteision strategol o ddefnydd gwell o brofiad ac ymgysylltu.
    • Y rhwystrau i ddefnydd strategol effeithiol o ymgysylltu a phrofiad a sut ydych chi'n eu goresgyn.
    • Sut y gallwch chi gwella eich defnydd strategol o brofiad ac ymgysylltu.

    At bwy oedd y digwyddiad wedi ei anelu

    Roedd y weminar wedi ei anelu at y canlynol:
    • Penaethiaid gwasanaethau
    • Penaethiaid cyfathrebu (mewnol ac allanol)
    • Timau rheoli newid
    • Unedau / timau ad-drefnu gwasanaethau
    • Staff profiad cleifion
    • Swyddogion ymgynghori
    • Byrddau gwasanaethau cyhoeddus
    Roedd yn cynnwys trafodaeth rhwng y canlynol:
    1. Fran Targett, Cyngor Ar Bopeth Cymru
    2. David Lloyd, TPAS (Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid) Cymru
    3. Alison Williams, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf
    4. Alison Ward, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

    Ble a phryd

    Dydd Mercher 15 Gorffennaf 2015, 1100-1215

    Cyfryngau cymdeithasol

     

Agenda

Register for this event
About You
Name
In person event details