Seminar sut i wneud y mwyaf o'ch buddsoddiad wrth ymgysylltu â'r cyhoedd

13 Ionawr 2014
  • Yn y seminar hon, daeth arweinwyr o'r sectorau cyhoeddus a gwirfoddol at ei gilydd i ystyried y ffordd orau o sicrhau'r elw mwyaf o'r ymdrech a'r amser a roddir i ymgysylltu â'r cyhoedd yn y sector cyhoeddus. Cynhaliwyd y seminar ar adeg dyngedfennol i'r sector cyhoeddus yn sgil y Cynllun Integredig Sengl a thoriadau yn y sector cyhoeddus.

    Daeth cynrychiolwyr o Lywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Cynghorau Gwirfoddol Sirol a Sefydliadau'r Trydydd Sector, GIG, Comisiwn Pobl Hyn Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru ynghyd ar gyfer y digwyddiad.

    Amcanion y seminar oedd:

    • Dysgu oddi wrth y profiadau a gafodd cydweithwyr wrth ymgysylltu â'r cyhoedd yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol;
    • Canfod cyfleoedd i'ch sefydliad gael mwy o fudd o ymgysylltu â'r cyhoedd;
    • Ystyried pa gonglfeini sy'n hanfodol er mwyn llwyddo.

    Amlinelliad o’r seminar

    Croeso a'r prif areithiau

    • Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru
    • Lisa James, ar ran Carl Sargent, Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau
    • Lindsey Colbourne, Hwylusydd

    Sesiwn 1: Cyfleoedd allweddol i wneud y mwyaf o'ch buddsoddiad wrth ymgysylltu â'r cyhoedd

    Sesiwn 2: Adeiladau llwyddiant

    Sesiwn 3: Galwad i weithredu

    Pryd a ble

    Dydd Iau 28 Mehefin 2012
    11.15 – 1600
    Y Pafiliwn, Llandrindod

Agenda

Register for this event
About You
Name
In person event details