Seminar Rheoli Grantiau

13 Ionawr 2014
  • Bu Swyddfa Archwilio Cymru yn cynnal seminarau dysgu a rennir ar Reoli Grantiau yn ddiweddar. Rydym wedi cyfuno’r hyn a rannwyd ac a ddysgwyd yn y seminarau er mwyn rhannu’r wybodaeth yn ehangach. Mae manylion cyswllt y cynrychiolwyr wedi eu cynnwys hefyd er mwyn i bobl allu cysylltu â’i gilydd.

    Nod y seminarau oedd:

    • Codi ymwybyddiaeth o rôl Swyddfa Archwilio Cymru mewn perthynas â Gwelliant. Mae llawer yn ymwybodol o’n rôl ni mewn perthynas â llywodraethu a gwarantu: roedd y seminarau’n dangos y cysylltiad rhwng y ddwy elfen;
    • Trafod un o argymhellion yr adroddiad: “Rheoli Grantiau yng Nghymru”. Gall arferion ymarfer da wrth fonitro a gwerthuso wella rheolaeth ar hyn o bryd gan hyrwyddo dysgu ar gyfer gwneud gwelliannau yn y dyfodol.

    Gellir gweld rhai o’r cyflwyniadau ar Vimeo [Agorir mewn ffenest newydd].

    Roedd y seminar hwn ar gyfer:

    • Llywodraeth Leol
    • Cynghorau Gwirfoddol Sirol
    • Cyllidwyr anstatudol.

    Amlinelliad o’r seminar

    Roedd y pum prif sesiwn yn y seminar yn cynnwys:

    • Crynodeb o’r adroddiad cenedlaethol ar Reoli Grantiau a Chyfleu Effaith
      Nick Davies, Swyddfa Archwilio Cymru
    • Arian Llywodraeth Leol ar gyfer y trydydd sector
      John Rae, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
    • Gwella Perfformiad
      Sam Matthews, Gwasanaethau Gwerthuso Elusennau
    • Effaith ac Atebolrwydd yn Seiliedig ar Ganlyniadau, Gwneud y Berthynas Grantiau yn ystyrlon
      Bryan Collis, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
    • Monitro
      David Moore, Canolfan Cydweithredol Cymru

    Ble a phryd

    Dydd Gwener 15 Mehefin 2012,
    0900 - 1300,
    Gorsaf Dân Gymunedol y Rhyl, Ffordd yr Arfordir, Y Rhyl, Sir Ddinbych, LL18 3PL.


    Dydd Gwener 22 Mehefin 2012,
    0900 - 1300,
    Swyddfa Archwilio Cymru, 24 Heol y Gadeirlan, Caerdydd, CF11 9LJ

Agenda

Register for this event
About You
Name
In person event details