Seminar Gweithio Ystwyth

13 Ionawr 2014
  • Cynhaliodd Swyddfa Archwilio Cymru, CLlLC a Chwarae Teg Seminar Dysgu a Rennir ar y syniadau a'r arferion diweddaraf ynglyn â sut mae sefydliadau'r Sector Cyhoeddus yn datblygu gweithio ystwyth.

    Gellir gwylio'r cyflwynwyr yn trafod eu cyfraniad [Agorir mewn ffenest newydd] i’r seminar.

    Hefyd gellir gweld syniadau o’r dydd a rannwyd ar Twitter [Agorir mewn ffenest newydd].

    Mae buddion gweithio ystwyth yn fwy perthnasol nag erioed, â'r hinsawdd economaidd bresennol fel ag y mae. Mae'r cysyniad o weithio ystwyth yn estyn heibio'r trefniannau gweithio hyblyg traddodiadol ar gyfer unigolion, ac yn anelu i ddatblygu diwylliant er mwyn gweld y sector cyhoeddus yn gwneud y defnydd gorau o'i adnoddau, wrth sicrhau darpariaeth gwasanaethau sy'n gwella ac yn ymateb. Mae yna angen sylweddol ar draws y sector cyhoeddus am gyfnewid gwybodaeth fel y gellir rhannu, dysgu neu wella arferion, yn arbennig mewn perthynas ag:

    • Adolygu hyblygrwydd presennol mewn trefniadau gweithio;
    • Adolygu/rhesymoli portffolios eiddo drud;
    • Cyflwyno arferion gweithio ystwyth drwy ddefnyddio TGCh;
    • Y cyd-berthynas rhwng y materion allweddol; Pobl, Llefydd a Phrosesau

    Cafodd y seminar ei anelu at rolau o fewn y Sector Cyhoeddus a'r Trydydd sector yng Nghymru, yn arbennig:

    • Rheolwyr Newid;
    • Arweinwyr Polisi;
    • Gweithwyr proffesiynol allweddol o'r adrannau Adnoddau Dynol, Rheolwyr Asedau a TGCh

    Amlinelliad o’r seminar

    Roedd y seminar yn cynnwys dau sesiwn arddangos lawn:

    • Mark Hooper, Indycube
    • Norma Jarboe, WomenCount

    A dewis i fynychu dau o'r gweithdai canlynol:

    • Portffolio Rhesymoli Eiddo – cael y pethau sylfaenol yn gywir
      David Sutherland, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
    • GWIR Fuddion Gweithio Ystwyth
      Sian Hayward, Cyngor Sir Fynwy
    • Cefnogi Rheolwyr mewn Amgylchedd Gweithio Ystwyth
      Jane Nyhan, Chwarae Teg

    Pryd a ble

    Dydd Iau 24ain Ionawr 2013
    0900 – 1300
    Swyddfa Archwilio Cymru, 24 Heol y Gadeirlan, Caerdydd, CF11 9LJ

    Dydd Mercher 30ain Ionawr 2013
    0900 – 1300
    Prifysgol Bangor, Bangor

Agenda

Register for this event
About You
Name
In person event details