Seminar Goleuni ar Graffu

13 Ionawr 2014
  • Cafodd y gynhadledd hon ei chynnal ar y cyd gan Swyddfa Archwilio Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Llywodraeth Cymru, y Ganolfan Craffu Cyhoeddus ac Ysgol Fusnes Caerdydd.

    Trawsgrifiad fideo [Word 21KB Agorir mewn ffenest newydd]

    Mae gan graffu rôl allweddol o fewn hunan-reoleiddio a hybu gwelliant, effeithiolrwydd a chydweithio ledled gwasanaethau cyhoeddus. Mae hyn yn gynyddol wir yn achos ymateb i'r her o'r sefyllfa ariannol fyd-eang, tra ar yr un pryd yn parhau i geisio gwella gwasanaethau. Ond a yw craffu yn cael effaith? Ydych chi'n cael gwerth am arian? A sut ydych chi'n gwybod hynny?

    Roedd y gynhadledd yn cynnwys prif anerchiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, Lesley Griffiths ac Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas. Hefyd, fe glywodd y cynrychiolwyr gan ystod o siaradwyr arbenigol.

    Wrth fynychu roedd cynrychiolwyr yn cael:

    • gwell dealltwriaeth o rôl gyfnewidiol a photensial craffu;
    • ffocws cliriach o ble y gellir gwneud gwelliannau i drefniadau craffu;
    • syniadau ar sut i wthio newidiadau ac arloesedd ymlaen drwy rannu profiadau a syniadau.

    Roedd y gynhadledd wedi ei anelu at yr isod:

    • Prif Weithredwyr
    • Arweinwyr
    • Aelodau a Phencampwyr Craffu
    • Cadeiryddion Pwyllgorau Archwilio
    • Penaethiaid Gwasanaethau Democrataidd
    • Penaethiaid Polisi a Swyddogion Craffu
    • Yr angen allweddol yw eu bod yn deall y rhan sydd ganddyn nhw i'w chwarae wrth ddarparu craffu effeithiol.

    Cynhaliwyd y gynhadledd rhwng 9.15yb a 4.45yp ar ddydd Iau 28ain Tachwedd 2013 yn Stadiwm SWALEC, Caerdydd.

cofrestrwch am ddigwyddiad hon
Amdanach chi
Enw
Manylion ddigwyddiad mewn berson

Please tick the box below to complete verification

CAPTCHA
a