Llywodraethu: Cefnogi gwelliant o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus cymhleth

16 Chwefror 2017
  • Mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr, rydym yn cynnal cyfres o weminarau i gynorthwyo gwasanaethau cyhoeddus i wellau eu dulliau Llywodraethu.

    Yn ddiweddar, gwnaethom gyhoeddi Papur Trafod: Heriau Llywodraethu a Ddaw yn Sgil Gwasanaethau a Ariennir yn Gyhoeddus ac a Ddarperir yn Anuniongyrchol yng Nghymru.  

    Mae'r papur trafod yn cydnabod bod Llywodraethu yn ganolog i wasanaethau cyhoeddus. Mae'n sail i'r ffordd y caiff adnoddau eu rheoli, y ffordd y caiff penderfyniadau eu gwneud, y ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu a'r effaith a gânt, nawr ac yn y dyfodol. Mae hefyd yn trwytho'r ffordd y caiff sefydliadau eu harwain a'r ffordd y maent yn rhyngweithio â'r cyhoedd.

    Rhaid i systemau llywodraethu fod yn gadarn ond rhaid iddynt hefyd fod yn gymesur. Mae sefydliadau sydd wedi'u llywodraethu'n dda yn ddynamig ac yn cymryd risgiau wedi'u rheoli'n dda; nid ydynt yn ddi-fynd nac yn fiwrocrataidd. 

    Yr oedd y wemiar gyntaf yn canolbwyntio ar ddulliau ynghylch cydweithio a phartneriaeth o ran llywodraethu.

    At bwy cafodd y gweminar ei hanelu

    Yr oedd y seminar ar gyfer staff sector cyhoeddus a’r trydydd sector fel a ganyln:

    • llunwyr polisi Cymru
    • ymarferwyr gwasanaethau cyhoeddus
    • academyddion llywodraethu
    • yn ogystal â'r rhai sy'n goruchwylio, yn darparu ac yn derbyn gwasanaethau a ariennir yn gyhoeddus ac a ddarperir yn anuniongyrchol yng Nghymru.

    Cyfryngau cymdeithasol

Agenda

Register for this event
About You
Name
In person event details