Lles Archwiliad Mewnol yn y Dyfodol

14 Ebrill 2016
  • Mae'r cyfuniad o ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a deddfwriaethau eraill yn golygu y bydd y tirlun gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn newid yn sylweddol.

    Bydd disgwyl i gyrff cyhoeddus ddefnyddio'r dulliau canlynol o weithio (integreiddio, cydweithredu, hirdymor, cyfranogiad ac ataliaeth) er mwyn gwneud y cyfraniad gorau posibl i'r diben cyffredin a rennir a nodwyd yn y nodau lles cenedlaethol.
    Mae hwn yn gyfle i Archwiliad Mewnol ystyried a fydd dulliau gweithredu cyfredol yn addas at y diben mewn amgylchedd gweithredu a fydd wedi newid yn sylweddol.
    Ar ddiwedd y seminar, roedd cynrychiolwyr yn deall beth mae'r newidiadau hyn yn ei olygu i archwiliad mewnol a byddant mewn sefyllfa well i ymateb i'r heriau sy'n wynebu'r gwasanaethau cyhoeddus.

    I bwy oedd y digwyddiad?

    Cafodd y seminar hon ei hanelu at reolwyr a swyddogion yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector sy'n gyfrifol am y meysydd canlynol:
    • prif archwilwyr mewnol
    • cadeiryddion ac aelodau pwyllgorau archwilio, ac
    • uwch dîm rheoli sydd ag archwiliad mewnol yn rhan o'i bortffolio.

    Cyflwyniadau

    1. Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol: Beth mae'n ei olygu i Bwyllgorau Archwilio [PDF 2.8MB Agorir mewn ffenest newydd] - Mike Palmer, Swyddfa Archwilio Cymru a Jeff Brown, Felicity Quance a Osian Lloyd, PricewaterhouseCoopers LLP 

    Cyfryngau Cymdeithasol

Agenda

Register for this event
About You
Name
In person event details