Gweminar: Paratoadau yng Nghymru am Brexit ‘heb gytundeb’

19 Chwefror 2019
  • Mae’r gweminar hon yn dilyn ein hadroddiad diweddar. Bydd yn cynnig ystyriaethau i swyddogion anweithredol a chynghorwyr i’w helpu wrth graffu cynlluniau Brexit eu sefydliadau.

    Cael tocynnau (dolen allanol)

     

     

    Mwy am y digwyddiad yma

    Gweminar yw’r digwyddiad hwn, mewn partneriaeth gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chonffederasiwn GIG Cymru. Bydd dolen i wylio'r gweminar yn cael ei hanfon o flaen llaw. Bydd yn cael ei recordio a bydd ar gael i'w wylio yn hwyrach ar ein sianel YouTube. 
    Mae'r digwyddiad hwn wedi'i anelu at bob swyddog anweithredol a chynghorydd, gan gynnwys y rhai sydd â swyddogaeth llywodraethu a chraffu yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.
    Ar hyn o bryd, bydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar 29 Mawrth 2019. Bydd yn golygu newidiadau sylweddol i wasanaethau cyhoeddus. Bydd risgiau i’w rheoli a chyfleoedd i fanteisio arnynt. Cyhoeddodd yr Archwilydd Cyffredinol ei adroddiad ar baratoadau yng Nghymru ar gyfer Brexit 'heb gytundeb' ar 19 Chwefror 2019. Ymhlith negeseuon allweddol yr adroddiad hwnnw oedd galwad am fwy o graffu annibynnol ar gynllunio Brexit gan aelodau etholedig ac aelodau annibynnol byrddau gwasanaethau cyhoeddus Cymru.

    Cysylltu â’r Gyfnewidfa Arfer Da

    Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am y digwyddiad hwn, e-bostiwch arfer.da@archwilio.cymru.

    Caiff cyfarwyddiadau ymuno eu hanfon 1-2 wythnos cyn y digwyddiad. Cofiwch roi'ch cyfeiriad e-bost wrth gadw lle fel y gallwn anfon gwybodaeth atoch.

    Rydym yn rhoi hysbysiad preifatrwydd i gynadleddwyr, sy'n rhoi gwybodaeth i chi am y ffordd rydym yn delio â'ch data personol fel rhan o'r broses gofrestru.

    Deunydd perthnasol

    Cyhoeddi: Paratoadau yng Nghymru ar gyfer Brexit 'heb gytundeb'

Agenda

Register for this event
About You
Name
In person event details