Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Wrth adael y weminar hon, bydd gan unigolion ddealltwriaeth glir o'r llwybr/dull critigol y mae angen i unigolion ei ddilyn i'w galluogi i wireddu buddiannau eu Rhaglen.
Mae Gwasanaethau Cyhoeddus yn gwario miliynau o bunnoedd ar brosiectau na chânt fyth eu gorffen. Yn aml, nid oes a wnelo'r rheswm unrhyw beth ag ansawdd y targedau cyflawnadwy. Yn amlach na pheidio nid oes yr amser, yr egni na'r brwdfrydedd i wneud yn siŵr y caiff y cynnyrch neu'r gwasanaeth ei fabwysiadu a'i ymgorffori yn y sefydliad. Mae'n ymwneud â Thîm y Rhaglen a Rheoli Prosiect sydd wedi symud ymlaen i'r prosiect nesaf neu sydd wedi diddymu yn amlach na pheidio. Gyda'r Sefydliad Rheoli Prosiectau ac Arfer Da Cymru, cynaliasom weminar am ddim ar Wireddu Buddiannau, gan dynnu sylw at y gwaith ymchwil diweddaraf ledled Ewrop ar yr arferion diweddaraf o Ewrop a'r tu hwnt. Trwy rannu'r ymchwil hon, ystyriasom hefyd ystyr hyn o ran Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Roedd y seminar hon i staff sector cyhoeddus a thrydydd sector yn y rolau canlynol: