Gweminar Dysgu a Rennir - Archwilio Mewnol

16 Mai 2014
  • Mae Archwilio Mewnol yn darparu gwasanaeth amhrisiadwy i wasanaethau cyhoeddus drwy sicrhau bod rheolaethau mewnol, rheoli risg a threfniadau llywodraethu yn cael eu gweithredu'n gywir. 

    Trawsgrifiad Fideo [PDF 176KB Agorir mewn ffenest newydd]

    Caiff ei gydnabod yn eang fod y Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru yn wynebu newidiadau mawr drwy ad-drefnu gwasanaethau, comisiynu gwasanaethau a chynyddu gweithio mewn partneriaeth. Bydd yr opsiynau hyn yn ffurfio rhan o dirwedd gwasanaethau cyhoeddus newydd.

    Bydd archwilio mewnol yn cael ei heffeithio gan y newidiadau hyn ac mae angen ymateb fel y gall barhau i ddarparu gwasanaeth gwerthfawr iawn. Fe wnaeth y gweminar yma lansio ffrwd o waith gan y Swyddfa Archwilio Cymru, gan ganolbwyntio ar Archwilio Mewnol.

    Gallwch weld fideos o'r gweminar [Agorir mewn ffenest newydd] a gwrando ar rannau o'r sesiwn holi ac ateb [Agorir mewn ffenest newydd].

    Cynhaliodd Swyddfa Archwilio Cymru, y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus Cyfrifon (CIPFA) ac Asiantaeth Archwilio Mewnol Glannau Mersi gweminar am 75 munud rhad ac am ddim, yn canolbwyntio ar:

    • Sgiliau a phrofiadau;
    • Opsiynau i wella gwasanaethau cyhoeddus a pham;
    • Sut allai elfennau allanol eraill effeithio / gyfrannu tuag at ddarparu gwasanaethau yn y dyfodol?
    • Sut mae Gwasanaethau Archwilio Mewnol yn mynd i sicrhau'r effaith mwyaf posib gyda llai o adnoddau?
    • A yw'r cydbwysedd rhwng Archwiliad Mewnol ariannol a rheoli gwerth am arian / llywodraethu / risg / prosiect yn gywir ar hyn o bryd? A ddylai newid?

    Cafodd y gweminar ei anelu at Swyddogion, Aelodau Etholedig, Cadeiryddion a swyddogion anweithredol sy'n cynnwys y rolau Cyllid, Archwilio Mewnol a Thrysorydd o fewn:

    • Llywodraeth Leol (gan gynnwys Cadeiryddion Pwyllgorau Craffu);
    • Cyrff Iechyd;
    • Awdurdodau Heddlu;
    • Gwasanaethau Tân ac Achub;
    • Cymdeithasau Tai;
    • Addysg Bellach ac Uwch; a
    • Llywodraeth Cymru a’r cyrff a noddir ganddi.

    Pryd
    10.00 - 11.15
    Dydd Iau 3 Gorffennaf 2014

Agenda

Register for this event
About You
Name
In person event details