Gwella Presenoldeb yn y Sector Cyhoeddus - Seminar 2

13 Ionawr 2014
  • Dyma ail seminar y Grŵp Llywio Rheoli Presenoldeb ar sut y gall ymarferwyr salwch ar draws y sector cyhoeddus ymgysylltu â’u rheolwyr llinell er mwyn darparu gwell rheolaeth a chymorth.

    Roedd gan wahanol sefydliadau sy’n gysylltiedig â thema’r seminar, gan gynnwys Hafal, Mind Cymru a Galw Iechyd Cymru, stondinau yn y digwyddiad yn darparu gwybodaeth a rhannu arfer da.

    Roedd cynrychiolwyr o Lywodraeth Leol, Awdurdodau’r Heddlu, Gwasanaethau Tân ac Achub, Byrddau Iechyd a Llywodraeth Cymru yn bresennol.

    Y siaradwr gwadd oedd Alistair Davey, Dirprwy Gyfarwyddwr Pobl, Lleoedd a Gwasanaethau Corfforaethol Llywodraeth Cymru, a chafwyd cyflwyniadau gan ymarferwyr ym maes Iechyd Galwedigaethol, y Gyfraith, Adnoddau Dynol a Gofal Iechyd.

    Amlinelliad o’r seminar

    Roedd y seminar yn cynnwys pum sesiwn arddangos:

    • Y Gweithle Ystyriol: Datblygu Diwylliant sy’n Creu Iechyd Meddwl Cadarnhaol 
      Moira Morgan, Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd/ RhNgCC
    • Gwella Presenoldeb yn y Sector Cyhoeddus
      Huw Morgans, Heddlu Dyfed Powys
    • Rheoli Straen yn y Gweithle
      Sally Isaacs, Eversheds
    • Rhaglen Cymorth i Gyflogeion Worksure
      Claire Vaughan, Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf
    • Iechyd Galwedigaethol 
      Dr Massoud Mansouri, InSync Corporate Healthcare

    Pryd a ble

    Dydd Iau 6 Mawrth 2012,
    0900 - 1300,
    Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Parc Busnes Forest View, Llantrisant, Pontyclun CF72 8LX.

    a

    Llywodraeth Cymru, Sarn Mynach, Cyffordd Llandudno, Conwy, LL31 9RZ

Agenda

Register for this event
About You
Name
In person event details