Gweithio mewn partneriaeth i frwydro yn erbyn twyll

25 Chwefror 2019
  • Cyfle i wasanaethau cyhoeddus Cymru ddysgu am ddatblygiadau diweddar mewn perthynas â mynd i'r afael â thwyll.

    Mwy am y digwyddiad yma

    Byddwn ni'n rhannu technegau archwilio, deallusrwydd a defnydd dadansoddeg data er mwyn atal a darganfod twyll.

    Mae'r seminar wedi ei chreu ar gyfer holl swyddogion ac aelodau'r sector cyhoeddus sydd â chyfrifoldebau neu ddiddordebau gwrth-dwyll o fewn eu sefydliadau gan gynnwys y rhai:

    • sydd â chyfrifoldebau am strategaeth gwrth-dwyll y sefydliad megis cyfarwyddwyr cyllid.
    • sydd â chyfrifoldeb am ymgymryd â gwaith archwiliol.
    • sy'n ymarfer gweithrediadau cydymffurfio a all ddiweddu gyda gweithred gwrth-dwyll e.e archwiliwyr mewnol.
    • sydd â chyfrifoldeb am asesu ceisiadau am wasanaethau neu fudd-daliadau ble mae risg gynhenid ac arwyddocoal o dwyll.

    Mae'r Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru o dan bwysau dwys. Gyda chyllid ar gyfer gwasanaethau yn lleihau, mae yna angen cynyddol i wasanaethau cyhoeddus ddarganfod arbedion effeithlonrwydd a gwaredu gwastraff. Mae pob punt sy'n cael ei cholli o ganlyniad i dwyll yn bunt wedi ei gwastraffu.

    Yn 2013, dywedodd Yr Awdurdod Atal Twyll Cenedlaethol y gellir amcangyfrif colled o £6.6 bn o golledion blynyddol, yn fras, o ganlyniad i dwyll (heb gynnwys twyll treth). Yng nghyhoeddiad diweddar Swyddfa'r Cabinet, 'Adroddiad Blynyddol Maes Twyll Traws-lywodraethol 2018' (agorir mewn ffenest newydd) cafwyd amcan o golledion posib adrannau'r llywodraeth o ganlyniad i dwyll a oedd yn amrywio rhwng £2.7bn a £20.3bn.

    Cysylltu â’r Gyfnewidfa Arfer Da

    Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am y digwyddiad hwn, e-bostiwch arfer.da@archwilio.cymru.

    Caiff cyfarwyddiadau ymuno eu hanfon 1-2 wythnos cyn y digwyddiad. Cofiwch roi'ch cyfeiriad e-bost wrth gadw lle fel y gallwn anfon gwybodaeth atoch.

    Rydym yn rhoi hysbysiad preifatrwydd i gynadleddwyr, sy'n rhoi gwybodaeth i chi am y ffordd rydym yn delio â'ch data personol fel rhan o'r broses gofrestru.

     

Agenda

Register for this event
About You
Name
In person event details