Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Cynhelir y seminar hon ar y cyd ag Academi Cymru ac mewn partneriaeth â Cydffederasiwn y GIG yng Nghymru, Gofal Cymdeithasol Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru ac Arfer Da Cymru.
Cydnabyddir yn eang na ellir parhau i gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus drwy ddefnyddio dull seilo traddodiadol. Felly, mae troi ar weithio mewn partneriaeth o ran gwasanaethau cyhoeddus a dinasyddion yn anochel.
Er bod egwyddorion cyffredinol a gydnabyddir yn eang yn gysylltiedig â gweithio mewn partneriaeth, mewn gwirionedd, mae nifer o ffyrdd gwahanol o gyflenwi gwasanaethau rhwng cyrff statudol ac anstatudol.
Credwn yn gryf os ydych am fynd yn gyflym, ewch ati ar eich pen eich hun ond os ydych am fynd yn bell, ewch ati gydag eraill.' Fodd bynnag, rydym yn cydnabod nad yw gweithio mewn partneriaeth bob amser yn hawdd.
Fel y gŵyr pob un ohonom, mae heriau cynhenid yn gysylltiedig â gweithio mewn partneriaeth, ond mae hefyd o fudd enfawr i'r unigolyn y mae angen y gwasanaeth hwnnw arno. Yn y pen draw, mae'n annhebygol y bydd yr unigolyn y mae angen y gwasanaeth arno yn poeni am y rhwystrau a phwy sy'n cyflenwi'r gwasanaeth, cyhyd ag y caiff ei anghenion eu diwallu.
Bydd y seminar hon yn canolbwyntio ar 'ddal y drych i fyny' fel y gellir sicrhau bod y gwaith o gynllunio a chyflenwi gwasanaeth yn canolbwyntio ar yr unigolyn, ni waeth pwy sy'n cyflenwi'r gwasanaeth.
#WAOPartnership
Mae'r seminar hwn wedi'i anelu at uwch arweinwyr (Cadeiryddion, Prif weithredwyr, Swyddogion anweithredol, Aelodau bwrdd ac Aelodau annibynnol) sy'n gweithio yn y meysydd canlynol:
Ble a phryd
0930 - 1600 Dydd Mercher 19 Medi 2018 Stadiwm Swalec, Caerdydd CF11 9XR
0930 - 1600 Dydd Iau 27 Medi 2018 Glasdir, Plas yn Dre, Llanrwst, Conwy LL26 0DF
Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad hwn ar Get Invited [agorir mewn ffenest newydd]
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am y digwyddiad hwn, e-bostiwch arfer.da@archwilio.cymru.