Dyfodol Llywodraethu: gwneud penderfyniadau effeithiol ar gyfer y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau'r dyfodol

31 Mawrth 2016
  • Mewn partneriaeth â Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, Llywodraeth Cymru, Cydffederasiwn GIG Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, gwnaethom gynnal digwyddiad ar 'Dyfodol Llywodraethu: Gwneud penderfyniadau effeithiol ar gyfer y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau'r dyfodol'.

    Bydd angen newid sylweddol i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru o ran y ffordd y maent yn gwneud penderfyniadau, er mwyn ymateb yn effeithiol i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae goblygiadau'r Deddf, ynghyd â thirwedd gwasanaethau cyhoeddus sy'n newid o hyd, yn golygu ni allwn barhau i gynnal, darparu a dwyn gwasanaethau cyhoeddus i gyfrif yn yr un ffordd ag o'r blaen.

    Os ydych yn rhan o wneud penderfyniadau o ran gwasanaethau cyhoeddus neu'n craffu arnynt, ni ddylech golli'r seminar hwn. Roedd y seminar hwn yn eich tywys yn ymarferol drwy'r sgiliau a'r ymddygiadau y bydd eu hangen ar wneuthurwyr penderfyniadau er mwyn cyflawni ysbryd a bwriad Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. 

    Cafodd unigolion ddealltwriaeth well o sut a pham y bydd yn rhaid iddynt wneud pethau'n wahanol a byddant yn fwy parod i sicrhau bod lles cenedlaethau'r dyfodol wrth wraidd gwneud penderfyniadau.

    Ar gyfer pwy oedd y seminar ar eu cyfer

    Cafodd y seminar hon ei hanelu at staff sector cyhoeddus a thrydydd sector yn y swyddi canlynol: 

    • Aelodau Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus;
    • Cadeiryddion ac is-gadeiryddion pwyllgorau craffu ac archwilio;
    • Aelodau anweithredol byrddau;
    • Arweinwyr ac aelodau o gabinetau;
    • Prif weithredwyr, cyfarwyddwyr ac uwch aelodau timau arwain gwasanaethau cyhoeddus;

    Cyflwyniadau

    1. Dyfodol Llywodraethu: gwneud penderfyniadau effeithiol ar gyfer y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau'r dyfodol [PDF 1.9MB Agorir mewn ffenest newydd] - yr Athro Tony Bovaird 

    Cyfryngau cymdeithasol

Agenda

Register for this event
About You
Name
In person event details