Diogelu gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer y dyfodol

30 Gorffennaf 2019
  • Bydd y weminar hon yn adnabod enghreifftiau ymarferol o wasanaethau yn gwneud pethau'n wahanol wrth gynllunio ar gyfer y dyfodol a sicrhau'r buddion gorau posibl ar draws y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

    Mwy am y digwyddiad hwn

    Bydd y weminar hon yn edrych ar sut y gallwn addasu a meddwl y tu allan i'n ffiniau sector i gyflawni newid tymor hir ar y cyd. Byddwn yn trafod sut y mae'n rhaid i wneuthurwyr penderfyniadau strategol a gweithredol gydbwyso anghenion heddiw gydag anghenion yfory.

    Pan fydd gwasanaethau cyhoeddus yn gwneud penderfyniadau heddiw, bydd effaith llawer o'r penderfyniadau hynny yn dal i gael ei theimlo ymhen 30 mlynedd. A ydych chi'n meddwl am y canlyniadau anfwriadol?

    Os ydym yn parhau i wneud penderfyniadau yn yr un ffordd ag yr ydym wedi gwneud erioed, ni fyddwn byth yn gweld y newid sydd ei angen arnom.

    Nid tasg hawdd yw cydbwyso anghenion tymor byr, cyfredol unigolion a chymunedau â nodau tymor hir. Mae cyrff cyhoeddus yn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau i ddiwallu anghenion pobl yma ac yn awr, ond mae natur y galw yn newid ac mae'r niferoedd yn codi.

    Mae gwasanaethau cyhoeddus hefyd yn wynebu heriau pontio'r cenedlaethau sydd wedi hen ymwreiddio, megis tlodi, a bygythiad hollbresennol newid yn yr hinsawdd, sy'n gofyn am weithredu hirdymor ar y cyd.

    Mae'r weminar wedi ei hanelu at:

    • benaethiaid gwasanaethau;
    • cynllunwyr strategol;
    • aelodau bwrdd a gweithwyr anweithredol;
    • cynllunwyr corfforaethol; a
    • rheolwyr perfformiad corfforaethol.

    Cysylltu â’r Gyfnewidfa Arfer Da

    I gysylltu â’r tîm Cyfnewidfa Arfer Da, ebostiwch arfer.da@archwilio.cymru.

    Caiff cyfarwyddiadau ymuno eu hanfon 1-2 wythnos cyn y digwyddiad. Cofiwch roi'ch cyfeiriad e-bost wrth gadw lle fel y gallwn anfon gwybodaeth atoch.

    Rydym yn rhoi hysbysiad preifatrwydd i gynadleddwyr, sy'n rhoi gwybodaeth i chi am y ffordd rydym yn delio â'ch data personol fel rhan o'r broses gofrestru.

cofrestrwch am ddigwyddiad hon
Amdanach chi
Enw
Manylion ddigwyddiad mewn berson

Please tick the box below to complete verification

CAPTCHA
a