Data Agored

28 June 2016
  • Edrychodd y Google Hangout yma ar sut y gall Data Agored helpu gwasanaethau cyhoeddus i ddarparu gwasanaeth cysylltiedig, agored ac effeithiol.

    Data agored yw data y gall unrhyw un cael mynediad ato, ei ddefnyddio neu ei rannu. Pan rannai gwmnïau mawr neu lywodraethau ddata amhersonol, mae’n galluogi dinasyddion, busnesau bach a gwasanaethau cyhoeddus i wneud gwelliannau i’w cymunedau.
     
    Mae gweithrediad Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn golygu y bydd yn rhaid i wasanaethau cyhoeddus weithio gyda’i gilydd ar draws sectorau i ddarparu gwasanaeth gwell i bobl. Gall Data Agored alluogi proses well o rannu data ar draws sefydliadau ac ardaloedd daearyddol. 
     
    Fe wnaeth y weminar trafod:
    • Beth yw Data Agored
    • Sut y gallwn wneud data yn agored
    • Y buddion sylweddol
    • Y camau nesaf
    Trwy mynychu’r digwyddiad, cafodd mynychwyr gwell ddealltwriaeth o Ddata Agored a sut y gall gynyddu tryloywder, rhoi grym i bobl a magu arloesedd.

    At bwy oedd yr Hangout wedi’i hanelu?

    Roedd y Hangout yma wedi’i hanelu at reolwyr y sector gyhoeddus a’r trydydd sector a swyddogion yn y meysydd canlynol:
    • Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus
    • Penaethiaid Gwasanaethau
    • Arweinwyr Diogelu’r Cyhoedd
    • Uwch-swyddogion Risg Gwybodaeth

    Cyfryngau cymdeithasol

     

Agenda

Register for this event
About You
Name
In person event details