Cymru'n cyd-dynnu: cynnwys pobl, gwella perfformiad

13 Ionawr 2014
  • Cynhaliodd Llywodraeth Cymru uwchgynhadledd undydd ar y manteision posibl i Gymru o ymgysylltu'n well â gweithwyr cyflogedig - gan gynyddu cynhyrchiant a gwella gwasanaethau i gwsmeriaid. 

    Trawsgrifiad fideo [PDF182 Agorir mewn ffenest newydd]

    Roedd y digwyddiad hwn yn dod â rheolwyr y sectorau at ei gilydd i rannu arferion da a thrafod ffyrdd ymarferol i'r sefydliadau ddatblygu gweithlu sy'n arbennig o ymgysylltiol.

    Roedd yr uwchgynhadledd hon ar gyfer arweinwyr a rheolwyr busnes o'r sectorau cyhoeddus a phreifat a'r trydydd sector yng Nghymru. Mae'n bosib fod y digwyddiad hefyd yn fanteisiol i weithwyr proffesiynol o'r meysydd canlynol:

    • Adnoddau Dynol
    • Datblygu Sefydliadol
    • Arloesi
    • Cyfathrebu Mewnol ac Allanol

    Amlinelliad o’r seminar

    Roedd yr uwchgynhadledd yn cynnwys:

    • Areithiau gan arbenigwyr ym maes ymgysylltu
    • Gweithdai'n egluro'r gwaith ymchwil diweddaraf ym maes ymgysylltu a sut mae ymgysylltu'n gwella perfformiad busnes
    • Sesiynau gydag arweinwyr o'r sectorau cyhoeddus a phreifat ar y panel
    • Cyfle i rwydweithio er mwyn rhannu'r arferion gorau ymhlith mynychwyr 

    Pryd a ble

    Dydd Llun 11 Tachwedd 2013
    Stadiwm SWALEC, Sophia Walk, Caerdydd CF11 9SZ

cofrestrwch am ddigwyddiad hon
Amdanach chi
Enw
Manylion ddigwyddiad mewn berson

Please tick the box below to complete verification

CAPTCHA
a