Cadw Cofnodion: Cywiro'r cofnod

08 Awst 2016
  • Rydym yn cynnal gweminar sy'n canolbwyntio ar wella'r gwaith o gadw cofnodion yn y GIG.

    Yn 2015-16, cafwyd 3 miliwn o ymweliadau gan gleifion allanol, derbyniwyd oddeutu 500,000 i wlâu mewn ysbyty, cafodd 120,000 o bobl brofion diagnostig a chafwyd dros 800,000 o ymweliadau ag adrannau Damweiniau ac Achosion Brys ar draws Cymru.

    Mae pob un o'r rhyngweithiadau hyn â'r GIG, ynghyd â llawer o ryngweithiadau eraill â gwasanaethau gofal cymunedol a sylfaenol, yn golygu bod rhaid cadw cofnod sy'n esbonio’n glir beth ddigwyddodd i'r claf. Er bod rhai agweddau gweinyddol ar y rhyngweithiadau hyn wedi eu storio ar systemau electronig, bydd gweithwyr clinigol proffesiynol gwahanol yn cwblhau cofnodion papur yn rheolaidd ar wahân, ar gyfer yr un rhyngweithiad neu gyfnod o ofal, gyda'r canlyniad bod y cofnodion yn fratiog.

    Yn 2001, canfu'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol fod cadw cofnodion yn wael gan gyrff y GIG wedi bod yn ffactor mewn dros 40% o hawliadau esgeulustod meddygol. Mae canfyddiadau adolygiad Swyddfa Archwilio Cymru o godio clinigol yn 2014 yn gyson â'r hyn a ganfuwyd gan y Comisiwn Archwilio yn 1999, sy'n awgrymu nad oes llawer wedi newid a bod y risg o esgeulustod meddygol yn parhau yr un fath.

    Byddai cleifion yn eu lle yn disgwyl i'w cofnodion fod ar gael yn rhwydd i bawb sydd angen eu gweld, ac y byddant yn gofnod cywir a chyflawn o'u gofal.

    Nod y gweminar hon yw rhannu dulliau a phrofiadau a dysgu oddi wrth gyrff sydd wedi:

    • Cymryd camau i fynd i'r afael â'r heriau o gadw cofnodion gwael;
    • Gwneud cynnydd drwy rannu cofnodion yn effeithiol rhwng gwasanaethau sylfaenol, eilaidd a chymunedol; a
    • Datblygu dulliau arloesol o gadw cofnodion drwy ddefnyddio technoleg smart.

    Ar gyfer pwy oedd y seminar ar eu cyfer

    Bwriadwyd y gweminar ar gyfer staff sy'n gweithio yn y meysydd canlynol:

    • Proffesiynau meddygol, nyrsio ac eraill cysylltiedig ag iechyd.
    • Ansawdd a diogelwch, gan gynnwys rheolaeth glinigol ac archwilio clinigol.
    • Rheoli risg
    • Meddygol gyfreithiol
    • Cofnodion meddygol a gwybodaeth 

    Cyfryngau cymdeithasol

     

Agenda

Register for this event
About You
Name
In person event details