Atall Twyll Caffael Ynghyd

09 Gorffennaf 2015
  • Rydym yn cynnal gweminar ar dwyll caffael yn y sector cyhoeddus Cymru.

    Twyll caffael yw'r twyll uchaf ond un a ganfyddir yn sector cyhoeddus y DU, yn ail i dwyll treth yn unig. Mae amcangyfrifon diweddar yn nodi bod twyll caffael yn costio oddeutu £2.3 biliwn y flwyddyn i’r sector cyhoeddus.

    Ni ellir parhau i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn y fformat presennol – mae hynny'n ffaith. O ganlyniad, bydd llawer o wasanaethau yn cael eu darparu mewn nifer o wahanol fodelau cydweithredol. Mae posibilrwydd y ceir cynnydd mewn gweithgarwch twyllodrus o ran caffael a chomisiynu'r gwasanaethau hyn.

    Nod y weminar hon yw rhannu'r dulliau, y profiadau a'r dysgu gan gyrff cydnabyddedig sy'n cynorthwyo gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i liniaru amlygiad i weithgarwch twyllodrus posibl. 

    Cyflwyniadau

    1. Anthony Barrett, Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol, Swyddfa Archwilio Cymru
    2. Rachael Tiffen, Pennaeth y Ganolfan Gwrth-dwyll a'r Gyfadran Lywodraethu, CIPFA
    3. Stephen Tooby, Pennaeth Gwrth-dwyll, Llywodraeth Cymru
    4. Mark Kinsella, Uwch Reolydd, Gwasanaeth Ymchwilio Twyll, Grant Thornton UK

    At bwy y mae'r digwyddiad wedi ei anelu

    Mae'r weminar wedi'i hanelu at:

    • Aelodau a swyddogion Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus      
    • Penaethiaid Caffael; Swyddogion Gwrth-dwyll                                                       
    • Penaethiaid Cyllid
    • Swyddogion Rheoli Risg                                             
    • Penaethiaid Archwilio Mewnol 
    • Aelodau bwrdd a chabinet y sector cyhoeddus                          
    • Swyddogion Adran 151
    • Aelodau Cynghorau Trefi a Chymunedau                       
    • Swyddogion y Trydydd Sector
    • Swyddogion Consortia Caffael yn y Sector Cyhoeddus Cymreig

    Cyfryngau cymdeithasol

    • Storify

Agenda

Register for this event
About You
Name
In person event details