Shared Learning Seminar
Arwain Sefydliadau ar Adeg Anodd

Cynhaliodd Swyddfa Archwilio Cymru seminar gyda'r Athro Dave Snowden, fel rhan o'u hymroddiad i gefnogi cyfnewid gwyboadeth ac i ddod ag arferion a phrofiad byd-eang i Gymru.

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn

Sylfaenydd a phrif swyddog gwyddonol 'Cognitive Edge' yw'r Athro Snowden. Mae ei waith yn rhyngwladol o ran natur, ac mae'n cwmpasu llywodraeth a diwydiant sy'n edrych ar faterion cymhleth yn ymwneud â strategaeth, gwneud penderfyniadau sefydliadol a gwneud penderfyniadau. Mae wedi paratoi dull, sy'n seiliedig ar wyddoniaeth, i sefydliadau dynnu ar anthropoleg, niwrowyddoniaeth a theori systemau addasol cymhleth. Mae'n brif siaradwr poblogaidd ac angerddol ar amrywiaeth o bynciau, ac mae'n adnabyddus am ei sinigiaeth bragmatig a'i arddull eiconoglastig.

Yn syth ar ôl gorffen ei waith yn Singapore darparodd yr Athro Snowden drosolwg o'i waith â sefydliadau ar draws y byd i gynulleidfa o arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus Cymru, gan ganolbwyntio ar sut y gall arweinwyr wneud synnwyr mewn amgylcheddau cymhleth i arwain sefydliadau mewn cyfnodau heriol.

Mae'r Athro Snowden wedi cyflwyno rhai o'i syniadau a'i ymatebion i gwestiynau a ofynnir yn ystod y seminar yn ei flog [Agorir mewn ffenest newydd] ac mewn clipiau fidio o’r diwrnod [Agorir mewn ffenest newydd].

Hefyd gellir gweld syniadau o’r dydd a rannwyd ar Twitter [Agorir mewn ffenest newydd].

Cafodd cofnod graffigol o'r digwyddiad ei gynhyrchu gan Laura Sorvala yn Aura_Lab. Darparodd Laura ddehongliadau gweledol cryf o feddyliau allweddol seminar a gweithdai prynhawn yr Athro Snowden.

Amlinelliad o’r seminar

Roedd sesiwn 1 (90 munud / cynnar yn y bore) ar gyfer Uwch Arweinwyr Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, ac roedd yr Athro Snowden yn taro golwg gyffredinol ar ddeall amgylcheddau cymhleth er mwyn arwain sefydliadau ar adegau anodd. 

Roedd sesiwn 2 (2 weithdy 2.5 awr) ar gyfer Arweinwyr Polisi, Rheolwyr Newid ac Uwch Swyddogion. Roeddent yn gyfle i fagu dealltwriaeth fwy treiddgar a phrofiad ymarferol o gasglu gwybodaeth a deall:

  • Safbwyntiau a phrofiadau defnyddwyr gwasanaethau a dinasyddion;
  • Ymgysylltu â gweithwyr cyflogedig;
  • Arloesi a gwella;
  • Monitro a mesur; a
  • Rôl arweinwyr mewn amgylcheddau gwasanaethau cyhoeddus cymhleth.

Pryd a ble

Dydd Mercher 28 Tachwedd 2012
0900 – 1300
Swyddfa Archwilio Cymru, 24 Heol y Gadeirlan, Caerdydd, CF11 9LJ

Dydd Iau 31 Ionawr 2013
0900 – 1300
Prifysgol Bangor, Bangor

Os hoffech gael eich hysbysu, cofrestrwch a dilynwch y digwyddiad hwn

Bydd rhagor o wybodaeth am y digwyddiad hwn yn cael ei ychwanegu yn fuan