Ail-adeiladu gwell ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol

18 Awst 2020
  • Sut y gall cyrff cyhoeddus ddefnyddio'r egwyddor datblygu cynaliadwy i lywio eu cynlluniau adfer.

    Mwy am y digwyddiad

    Ym mis Mai 2020, cyhoeddodd yr Archwilydd Cyffredinol a Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol eu hadroddiadau statudol cyntaf o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'r adroddiadau hyn yn amlinellu sut mae cyrff cyhoeddus ledled Cymru yn defnyddio'r Ddeddf a beth sydd angen iddynt ei wneud i wella. Gallwch weld adroddiad y Comisiynydd yma ac adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol yma.

    Yn 2020, mae'n amlwg bod cyrff cyhoeddus yn wynebu heriau mwy fyth na phan gyflwynwyd y Ddeddf. Wrth iddynt geisio mynd i'r afael ag effeithiau tymor canolig a thymor hwy y pandemig, bydd angen iddynt hefyd barhau yn eu hymdrechion i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd ac anghydraddoldebau sydd wedi ymwreiddio, ac ar yr un pryd ymateb i'r risgiau a'r cyfleoedd sy'n deillio o ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd.

    Yn ystod y digwyddiad hwn byddwn yn trafod sut y gall y Ddeddf a'r hyn a ddysgwyd o'n dau adroddiad diweddar, helpu cyrff cyhoeddus i ddatblygu'r ymatebion cydweithredol hirdymor angenrheidiol i'r heriau cymhleth a chydgysylltiedig hyn.

    Yn ystod y digwyddiad, cewch gyfle i:

    • glywed gan Adrian Crompton a Sophie Howe am y ffordd y gallwch ddefnyddio'r canfyddiadau a'r argymhellion yn eu hadroddiadau unigol i wella'r ffordd yr ydych yn gweithredu'r egwyddor datblygu cynaliadwy;
    • ystyried sut a pham y dylai'r egwyddor datblygu cynaliadwy fod wrth wraidd eich cynllunio ar gyfer adferiad; a
    • dysgu mwy am sut mae eraill yn cymryd agwedd tymor hir at gynllunio adferiad sy'n adlewyrchu'r egwyddor datblygu cynaliadwy.

    Mae'r digwyddiad 90 munud ar-lein hwn ar gyfer uwch arweinwyr mewn cyrff cyhoeddus ledled Cymru

    Cysylltwch â'r Gyfnewidfa Arfer Da

    I gofrestru, llenwch ein ffurflen ar-lein. Rydym yn darparu hysbysiad preifatrwydd sy’n amlinellu sut rydym yn delio â'ch data personol fel rhan o'r broses gofrestru.

    Dosberthir cyfarwyddiadau ymuno 1-2 wythnos cyn y digwyddiad. Sicrhewch eich bod yn darparu eich cyfeiriad e-bost wrth archebu lle er mwyn sicrhau ein bod yn gallu anfon gwybodaeth atoch.

    I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad, anfonwch e-bost i Arfer.Da@archwilio.cymru

Agenda

Register for this event
About You
Name
In person event details