Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae ein hadroddiad yn dangos ymrwymiad y sector cyhoeddus i leihau allyriadau carbon
Mae gweithgarwch sylweddol yn digwydd i leihau allyriadau carbon. Fodd bynnag, mae angen i gyrff cyhoeddus gyflymu eu gweithgarwch yng nghanol ansicrwydd amlwg ynghylch a fyddant yn cyflawni'r uchelgais gyfunol i gyrraedd allyriadau carbon sero-net erbyn 2030. Ceir rhwystrau gwirioneddol y mae angen i gyrff cyhoeddus fynd i'r afael â hwy, ac mae angen rhoi datgarboneiddio wrth wraidd eu gweithgareddau o ddydd i ddydd.
Mae'r Archwilydd Cyffredinol wedi ymrwymo i raglen waith barhaus ar y newid yn yr hinsawdd. Ein hadroddiad 'Parodrwydd y Sector Cyhoeddus ar gyfer Carbon Sero Net erbyn 2030' yw ein darn cyntaf o waith sy'n edrych ar ddatgarboneiddio mewn 48 o gyrff sector cyhoeddus mwy o faint.
Yn ein hadroddiad, mae'r Archwilydd Cyffredinol yn gwneud y pum galwad canlynol am weithredu gan gyrff cyhoeddus: