Mae ein hadroddiad yn nodi canfyddiadau ein hadolygiad lefel uchel o’r modd y mae GIG Cymru’n mynd i’r afael â’r ôl-groniad o ran cleifion sy’n aros am ofal wedi’i gynllunio.
Mae’r ôl-groniad amseroedd aros yn un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu GIG Cymru, a wnaed yn llawer gwaeth gan COVID-19 a’r effaith y mae wedi’i chael ar gapasiti’r GIG. Ym mis Chwefror 2022, roedd bron i 700,000 o gleifion yn aros am ofal wedi'i gynllunio, cynnydd o 50% ers mis Chwefror 2020.
Yr hyn a ganfuom
Canfuom fod angen i GIG Cymru weithredu ar y cyd i fynd i’r afael â’r amseroedd aros ar gyfer gofal wedi’i gynllunio a bod angen gwneud mwy i osgoi niwed i gleifion tra’u bod yn aros am driniaeth.
Yn ein hadroddiad, rydym yn canfod, er bod y cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru’n mynd i fod yn hanfodol i fynd i’r afael â’r ôl-groniad, na fydd hynny’n datrys y broblem ar ei ben ei hun. Bydd angen i GIG Cymru oresgyn rhai rhwystrau difrifol hefyd, megis prinderau staff a materion recriwtio hirdymor.
Mae ein hadroddiad hefyd yn nodi 5 argymhelliad yn seiliedig ar yr hyn y mae angen i Lywodraeth Cymru ei wneud wrth iddi roi ei chynllun cenedlaethol ar waith, sydd wedi’i fwriadu i drawsnewid a moderneiddio gofal wedi’i gynllunio.
Rydym hefyd wedi cyhoeddi offeryn data amseroedd aros ochr yn ochr â’n hadroddiad sy’n bwrw golwg ar y gwahanol amseroedd aros ar gyfer gwahanol fyrddau iechyd.
Mae'r data rydym yn ei ddefnyddio yn cyfeirio at lwybrau cleifion ac efallai y bydd gan glaf unigol fwy nag un cyflwr iechyd ac felly y bydd ar sawl llwybr. Mae hyn yn golygu bod nifer wirioneddol yr unigolion sy'n aros yn debygol o fod yn is.