Mae gan y 735 o gynghorau tref a chymuned yng Nghymru rolau hanfodol o ran cefnogi cymunedau cryf, bywiog a datblygu lleol. Mae eu gallu i wneud hyn yn dibynnu ar drefniadau rheolaeth ariannol a llywodraethu cadarn. Gan bod cynghorau cymuned yn cael cyfrifoldebau cynyddol mae hyn yn dod yn fwy hanfodol byth.
Mae’r adroddiad hwn yn bwrw golwg ar rai o’r heriau sylweddol y mae cynghorau cymuned yn eu hwynebu a rhai o’r canllawiau sydd ar gael i helpu cynghorau i oresgyn yr heriau hynny.