
-
Cyngor Sir Powys – Adolygiad Strategaeth Ddigidol
-
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful – Gosod amcanion llesiant
-
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful – Defnyddio gwybodaeth am…
-
Adroddiad Cydraddoldeb 2022-23
-
Adolygiad Strategaeth Ddigidol – Cyngor Castell-nedd Port Talbot
Edrychodd ar sut yr oeddent yn defnyddio eu profiadau o'r pandemig i gryfhau eu gallu i drawsnewid, addasu a chynnal darpariaeth gwasanaethau.
Yr hyn a chanfuom
Aeth cynghorau yng Nghymru drwy newid cyflym o ran sut a ble roedd eu staff yn gweithio yn ystod y pandemig, a nodweddir gan symudiad torfol i weithio o bell.
Canfu ein hadroddiad fod y rhan fwyaf o gynghorau ar hyn o bryd yn gweithio trwy sut y dylai eu 'normal newydd' edrych.
Gwelsom hefyd fod angen i gynghorau ddatblygu eu syniadau i gynllunio ar gyfer y tymor hwy, gan gydbwyso recriwtio a chadw staff tra hefyd yn darparu gwasanaethau effeithlon i'r cyhoedd. Fodd bynnag, rydym wedi tynnu sylw at wendidau yn eu trefniadau yn ein hadroddiad a allai gyfyngu ar eu gallu i wneud hyn.
Canfuom hefyd nad oedd llawer o gynghorau wedi edrych eto ar sut y gallent weithredu egwyddor datblygu cynaliadwy Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol i'w helpu i ddatblygu eu dulliau o ymdrin â'r gweithlu ac asedau.
Yn ein hadroddiad, rydym yn darparu crynodeb o'n hargymhellion i gynghorau lleol.
Related News
