Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae ein hadroddiad yn ystyried y newidiadau yn y galw am driniaeth orthopedig, yr agweddau ar gapasiti’r gwasanaeth a rhywfaint o’r gwaith cenedlaethol diweddar a gydlynwyd i foderneiddio gwasanaethau.
Mae’r adroddiad hwn hefyd yn nodi’r camau gweithredu allweddol y mae angen i GIG Cymru eu cymryd i fynd i’r afael â’r heriau mewn gwasanaethau orthopedig.
Cyn y pandemig, roedd nifer y bobl ar y rhestr aros am wasanaethau orthopedig ymhlith un o’r heriau mwyaf roedd GIG Cymru yn ei hwynebu ac mae effaith COVID-19 wedi gwaethygu’n sylweddol yr amseroedd aros hyn sydd eisoes yn hir.
Nododd ein hadroddiad bod angen cymryd camau cynaliadwy ac ar fyrder i fynd i’r afael â’r amseroedd aros hir am wasanaethau orthopedig. Mae ymrwymiad clir i wella amseroedd aros. Fodd bynnag, gallai gymryd tair blynedd neu fwy i restrau aros am wasanaethau orthopedig ddychwelyd i’r lefelau a fodolai cyn y pandemig.
Yn ein hadroddiad, rydym wedi amlinellu nifer o argymhellion i Lywodraeth Cymru a’r Byrddau Iechyd er mwyn mynd i’r afael â’r heriau mewn gwasanaethau orthopedig.
Rydym hefyd wedi cyhoeddi adroddiadau lleol sy’n nodi sefyllfa gymharol gwasanaethau orthopedig ym mhob Bwrdd Iechyd yng Nghymru.