Clawr yr adroddiad gyda thestun - Cynllun Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau ar gyfer Archwilio Cymru 2023 – 2027
Cynllun Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau ar gyfer Archwilio Cymru 2023 – 2027
29 Awst 2023

Mae'r cynllun hwn yn nodi ein hamcanion Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau ar gyfer y cyfnod 2023-2027.

Mae ein Cynllun Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau yn adeiladu ar y datblygiadau a gyflawnwyd yn ein cynllun blaenorol a'i nod yw integreiddio ystyriaethau bioamrywiaeth trwy gydol ein holl weithgareddau, yn unol â'n cyfrifoldebau.

Mae'r cynllun hwn yn tynnu sylw at ein hymrwymiadau allweddol dros y tair blynedd nesaf. Rydym wedi sefydlu pedwar amcan allweddol ac mae'r cynllun yn tynnu sylw at y camau y byddwn yn eu cymryd.

Mae'r rhain yn cyd-fynd â nodau strategol pum mlynedd Archwilio Cymru i 'ddarparu rhaglen archwilio strategol, deinamig ac o ansawdd uchel' ac i 'ddatblygu model diwylliant a gweithredu sy'n ein galluogi i ffynnu nawr ac yn y dyfodol.'

Hoffem gael eich adborth