Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Trosolwg a Chraffu – Addas ar gyfer y Dyfodol?
Ym mis Mehefin 2018, fe gyhoeddwyd ein hadroddiad Trosolwg a Chraffu Addas ar gyfer y Dyfodol - Cyngor Sir Gaerfyrddi a oedd yn cynnwys chwe chynnig i'w gwella er mwyn i'r Cyngor fynd i'r afael â nhw. Rydym wedi cynnal adolygiad dilynol ar y camau y mae'r Cyngor wedi eu cymryd.
Ein canfyddiad cyffredinol yw bod y Cyngor wedi gwneud rhywfaint o gynnydd o ran mynd i'r afael â'n cynigion blaenorol i wella ond mae angen o hyd cryfhau trefniadau i asesu effeithiolrwydd ac effaith ei swyddogaeth craffu.