Ceisiodd ein hadolygiad ateb y cwestiwn: A yw dull strategol y Cyngor tuag at ei weithlu'n effeithiol yn helpu'r Cyngor i gryfhau ei allu i drawsnewid, addasu a chynnal darparu ei wasanaethau yn y tymor byr a'r tymor hwy?
Ar y cyfan, gwelsom fod y Cyngor wedi cymhwyso'r egwyddor datblygu cynaliadwy i ddatblygu gweledigaeth glir ar gyfer ei weithlu sy'n cael ei gefnogi gan drefniadau gweithredu effeithiol.