Paratowyd yr adroddiad hwn er budd y cyhoedd yn unol ag Adran 22 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004.
Mae ein hadroddiad wedi nodi methiannau sylweddol o ran gwneud penderfyniadau, diffygion mewn rheolaeth ariannol a rheolaeth fewnol a dadansoddiad mewn cysylltiadau o fewn y Cyngor.
Mae'r methiannau hyn yn golygu nad oedd gan y Cyngor drefniadau priodol ar waith i sicrhau economi, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd wrth ddefnyddio adnoddau.
Mae gwersi i'w dysgu nid yn unig gan y Cyngor hwn, ond gan bob cyngor cymuned yng Nghymru.