Mae ein hadroddiad yn darparu peth cyd-destun ar gyfer yr heriau ariannol a wynebir gan gynghorau yng Nghymru ac yn crynhoi ein canfyddiadau allweddol o’r gwaith hwn
Mae ein hadroddiad yn myfyrio ynghylch yr heriau ariannol a wynebir gan gynghorau yng Nghymru a beth y mae hyn i gyd yn ei olygu ar gyfer cynaliadwyedd ariannol cynghorau yn y dyfodol. Rydym hefyd yn darparu rhai myfyrdodau ynghylch sut y gellid cryfhau cynaliadwyedd ariannol cynghorau yn y dyfodol.
Ein ffocws
Dros wanwyn a haf 2024, fe wnaethom fwrw golwg ar gynaliadwyedd ariannol pob un o’r 22 o gynghorau yng Nghymru. Fe wnaethom ganolbwyntio ar:
- y strategaethau i ategu cynaliadwyedd ariannol hirdymor cynghorau;
- dealltwriaeth cynghorau am eu sefyllfa ariannol; a hefyd
- trefniadau adrodd cynghorau i ategu goruchwyliaeth reolaidd ar eu cynaliadwyedd ariannol.