Clawr adroddiad
Cydbwyllgorau Corfforedig – sylwebaeth ar eu cynnydd
Cyrff corfforedig newydd yw Cydbwyllgorau Corfforedig a chanddynt rai pwerau a dyletswyddau tebyg i gynghorau.

Gallant fod yn berchen yn uniongyrchol ar asedau a chyflogi staff. Rhaid iddynt benodi Prif Weithredwr, Swyddog Cyllid a Swyddog Monitro. Mae aelodaeth Cydbwyllgorau Corfforedig yn cynnwys arweinwyr y cynghorau o fewn y rhanbarth penodol ac Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol sy’n gorwedd yn y rhanbarth hwnnw.

Sefydlwyd pedwar Cydbwyllgor Corfforedig i helpu i gryfhau cydweithio rhanbarthol rhwng awdurdodau:

  • Cydbwyllgor Corfforedig De Ddwyrain Cymru
  • Cydbwyllgor Corfforedig De Orllewin Cymru
  • Cydbwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru
  • Cydbwyllgor Corfforedig Canolbarth Cymru

Daethant i rym ym mis Ebrill 2021 a rhoddwyd y swyddogaethau canlynol iddynt o fis Mehefin 2022:

  • datblygu polisïau trafnidiaeth
  • paratoi cynllun datblygu strategol
  • llesiant economaidd – unrhyw beth y mae Cydbwyllgor Corfforedig o’r farn ei fod yn debygol o hybu neu wella llesiant economaidd ei ardal.

Gan bod y Cydbwyllgorau Corfforedig yn gyrff corfforedig newydd, fe wnaethom fwrw golwg ar eu cynnydd o ran datblygu eu trefniadau i gyflawni eu rhwymedigaethau statudol a nod Llywodraeth Cymru i gryfhau cydweithio rhanbarthol.

Yr hyn a ganfuom

Dros 2 flynedd ers eu sefydlu ym mis Ebrill 2021 a 12 mis ers rhoi eu swyddogaethau a dyletswyddau craidd iddynt ym mis Mehefin 2022, mae’n amlwg bod y Cydbwyllgorau Corfforedig yn dal i fod yng nghyfnod cynnar eu datblygiad.

Maent wedi sefydlu’r conglfeini ar gyfer eu datblygiad, ac mae cynnydd y Cydbwyllgorau Corfforedig yn amrywio mewn gwahanol feysydd ond, ar y cyfan, nid yw’r trefniadau llywodraethu i gyd yn weithredol ac mae cryn dipyn o waith i’w wneud i gyflawni eu cyfrifoldebau cynllunio strategol.

Roedd pryder cychwynnol ynghylch eu cynnydd araf ac amrywiol, a pharodrwydd Llywodraeth Cymru i hwyluso’r broses o’u rhoi ar waith, ond bu arwyddion mwy cadarnhaol o’r Cydbwyllgorau Corfforedig yn symud ymlaen yn ddiweddar.

Rydym yn disgwyl gweld y Cydbwyllgorau Corfforedig yn symud ymlaen ymhellach dros y 12-18 mis nesaf ac rydym wedi gwneud 5 argymhelliad.

Dylid darllen yr adroddiad hwn ar y cyd â’r llythyrau unigol hyn a gyflwynais i’r pedwar Cydbwyllgor Corfforedig:

Llythyr ar gynnydd Cydbwyllgor Corfforedig De Ddwyrain Cymru [Agorir mewn ffenest Newydd]

Llythyr ar gynnydd Cydbwyllgor Corfforedig De Orllewin Cymru [Agorir mewn ffenest Newydd]

Llythyr ar gynnydd Cydbwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru [Agorir mewn ffenest Newydd]

Llythyr ar gynnydd Cydbwyllgor Corfforedig Canolbarth Cymru [Agorir mewn ffenest Newydd]

Hoffem gael eich adborth

CAPTCHA