Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

  • Ar ôl cwblhau adolygiad yn ddiweddar o gomisiynu lleoliadau mewn cartrefi gofal ar gyfer pobl hŷn yng Ngogledd Cymru, mae’r adroddiad hwn yn dwyn ynghyd faterion o bwys cenedlaethol ehangach ac yn gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru eu hystyried. 

    ,
    Mae costau comisiynu cartrefi gofal ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru yn rhedeg i rai cannoedd o filiynau o bunnau bob blwyddyn ac mae’n effeithio ar filoedd lawer o bobl.
    ,

    Mae comisiynu cartrefi gofal yn ganlyniad asesu anghenion y boblogaeth, cynllunio, siapio, caffael ac weithiau darparu gwasanaethau cartrefi gofal. Dylid ymgymryd â’r gwaith gyda’r nod o sicrhau digon o leoedd mewn cartrefi gofal o safon uchel i ateb anghenion y presennol a’r dyfodol. Dylai ganolbwyntio ar werth i’r trethdalwr a chanlyniadau i ddefnyddwyr y gwasanaeth.

    Yr hyn a ganfuom

    Drwy ein gwaith rhanbarthol, a’n dadansoddiad Cymru gyfan ar ben hynny, canfuom saith o broblemau allweddol. Mae rhai o’r problemau hyn yn bod ers amser maith ac yn cynnwys trefniadau cyllido sy’n gymhleth ac yn achosi rhaniadau ymhlith partneriaid, a system sy’n anodd gweithio drwyddi.

    Rydym wedi gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru i ystyried ein canfyddiadau er mwyn ei sicrhau ei hun bod diwygiadau i’r polisi yn mynd yn ddigon pell i ymdrin ag achosion sylfaenol y problemau, gyda’r nod o osod ansawdd a chanlyniadau wrth galon y broses gomisiynu.

    ,

    Cyhoeddi cysylltiedig

    Mae’r trefniadau presennol ar gyfer comisiynu lleoliadau mewn cartrefi gofal i bobl hŷn yn methu â mynd i’r afael â rhai problemau sy’n bod ers amser maith

    Gweld mwy
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Comisiynu Lleoliadau mewn Cartrefi Gofal i Bobl Hŷn

    Gweld mwy
CAPTCHA