Maent bellach mewn sefyllfa gryfach o lawer, gyda phentwr o’r rhan fwyaf o Gyfarpar Diogelu Personol ac archebion wedi’u cyflwyno ar gyfer y rhai sydd islaw 24 wythnos.
Mae rhai aelodau o staff rheng-flaen wedi dweud eu bod wedi profi prinder Cyfarpar Diogelu Personol ac roedd rhai’n teimlo y dylent fod wedi cael lefel uwch o Gyfarpar Diogelu Personol nag sy’n ofynnol yn ôl y canllawiau.
Sefydlodd Llywodraeth Cymru a’r Cydwasanaethau drefniadau da ar y cyfan i gaffael Cyfarpar Diogelu Personol a helpodd i reoli risgiau ac osgoi rhai o’r materion yr adroddwyd arnynt yn Lloegr. Fodd bynnag, ni chyhoeddodd y Cydwasanaethau hysbysiadau dyfarnu contract ar gyfer eu holl gontractau Cyfarpar Diogelu Personol o fewn 30 diwrnod i’w gosod.
Mae’r adroddiad hwn yn bwrw golwg ar gaffael a chyflenwi Cyfarpar Diogelu Personol yn ystod pandemig COVID-19 ac yn canolbwyntio ar yr ymdrechion cenedlaethol i gyflenwi cyrff iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.