Pwyslais allweddol ein hadolygiad fu a yw dull cynllunio gweithlu y Bwrdd Iechyd yn ei helpu i fynd i’r afael yn effeithiol â heriau gweithlu cyfredol y GIG a’i heriau gweithlu yn y dyfodol.
Ar y cyfan, canfuom fod y Bwrdd Iechyd yn canolbwyntio’n ddigonol ar ei heriau gweithlu sylweddol. Mae ei waith ar gynllunio’r gweithlu strategol a gomisiynwyd yn ddiweddar wedi cynyddu’r ddealltwriaeth gyffredinol o ddiffygion data cyfredol. Wrth ddechrau o linell sylfaen isel, mae hyn yn gyfle i fynd i’r afael ag anghenion data ac i gefnogi’r broses o drawsnewid y gweithlu yn y tymor hwy.
Mae angen i’r Bwrdd Iechyd gwblhau ei Gynllun Pobl a’i gynlluniau gweithredu’r gweithlu cyfunol, eu cyflawni nhw a mesur yr effaith gyffredinol yn y tymor byr i’r tymor canolig.